Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Effesiaid 1:1-15

Effesiaid 1:1-15 BWM

Paul, apostol Iesu Grist trwy ewyllys Duw, at y saint sydd yn Effesus, a’r ffyddloniaid yng Nghrist Iesu: Gras fyddo i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad, a’r Arglwydd Iesu Grist. Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, yr hwn a’n bendithiodd ni â phob bendith ysbrydol yn y nefolion leoedd yng Nghrist: Megis yr etholodd efe ni ynddo ef cyn seiliad y byd, fel y byddem yn sanctaidd ac yn ddifeius ger ei fron ef mewn cariad: Wedi iddo ein rhagluniaethu ni i fabwysiad trwy Iesu Grist iddo ei hun, yn ôl bodlonrwydd ei ewyllys ef, Er mawl gogoniant ei ras ef, trwy yr hwn y gwnaeth ni yn gymeradwy yn yr Anwylyd: Yn yr hwn y mae i ni brynedigaeth trwy ei waed ef, sef maddeuant pechodau, yn ôl cyfoeth ei ras ef; Trwy yr hwn y bu efe helaeth i ni ym mhob doethineb a deall, Gwedi iddo hysbysu i ni ddirgelwch ei ewyllys, yn ôl ei fodlonrwydd ei hun, yr hon a arfaethasai efe ynddo ei hun: Fel yng ngoruchwyliaeth cyflawnder yr amseroedd, y gallai grynhoi ynghyd yng Nghrist yr holl bethau sydd yn y nefoedd, ac ar y ddaear, ynddo ef: Yn yr hwn y’n dewiswyd hefyd, wedi ein rhagluniaethu yn ôl arfaeth yr hwn sydd yn gweithio pob peth wrth gyngor ei ewyllys ei hun: Fel y byddem ni er mawl i’w ogoniant ef, y rhai o’r blaen a obeithiasom yng Nghrist. Yn yr hwn y gobeithiasoch chwithau hefyd, wedi i chwi glywed gair y gwirionedd, efengyl eich iachawdwriaeth: yn yr hwn hefyd, wedi i chwi gredu, y’ch seliwyd trwy Lân Ysbryd yr addewid; Yr hwn yw ernes ein hetifeddiaeth ni, hyd bryniad y pwrcas, i fawl ei ogoniant ef. Oherwydd hyn minnau hefyd, wedi clywed eich ffydd yn yr Arglwydd Iesu, a’ch cariad tuag ar yr holl saint