Y mae amser i bob peth, ac amser i bob amcan dan y nefoedd: Amser i eni, ac amser i farw; amser i blannu, ac amser i dynnu y peth a blannwyd; Amser i ladd, ac amser i iacháu; amser i fwrw i lawr, ac amser i adeiladu; Amser i wylo, ac amser i chwerthin; amser i alaru, ac amser i ddawnsio; Amser i daflu cerrig ymaith, ac amser i gasglu cerrig ynghyd; amser i ymgofleidio, ac amser i ochel ymgofleidio; Amser i geisio, ac amser i golli; amser i gadw, ac amser i fwrw ymaith; Amser i rwygo, ac amser i wnïo; amser i dewi, ac amser i ddywedyd; Amser i garu, ac amser i gasáu; amser i ryfel, ac amser i heddwch. Pa fudd sydd i’r gweithydd yn yr hyn y mae yn llafurio? Mi a welais y blinder a roddes DUW ar feibion dynion, i ymflino ynddo. Efe a wnaeth bob peth yn deg yn ei amser: efe a osododd y byd hefyd yn eu calonnau hwy, fel na allo dyn gael allan y gwaith a wnaeth DUW o’r dechreuad hyd y diwedd. Mi a wn nad oes dim da ynddynt, ond bod i ddyn fod yn llawen, a gwneuthur daioni yn ei fywyd.
Darllen Y Pregethwr 3
Gwranda ar Y Pregethwr 3
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Y Pregethwr 3:1-12
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos