Cadw y dydd Saboth i’w sancteiddio ef, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD dy DDUW i ti. Chwe diwrnod y gweithi, ac y gwnei dy holl waith: Ond y seithfed dydd yw Saboth yr ARGLWYDD dy DDUW: na wna ynddo ddim gwaith, tydi, na’th fab, na’th ferch, na’th was, na’th forwyn, na’th ych, na’th asyn, nac yr un o’th anifeiliaid, na’th ddieithr-ddyn yr hwn fyddo o fewn dy byrth; fel y gorffwyso dy was a’th forwyn, fel ti dy hun. A chofia mai gwas a fuost ti yng ngwlad yr Aifft, a’th ddwyn o’r ARGLWYDD dy DDUW allan oddi yno â llaw gadarn, ac â braich estynedig: am hynny y gorchmynnodd yr ARGLWYDD dy DDUW i ti gadw dydd y Saboth.
Darllen Deuteronomium 5
Gwranda ar Deuteronomium 5
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Deuteronomium 5:12-15
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos