Belsassar y brenin a wnaeth wledd fawr i fil o’i dywysogion, ac a yfodd win yng ngŵydd y mil. Wrth flas y gwin y dywedodd Belsassar am ddwyn y llestri aur ac arian, a ddygasai Nebuchodonosor ei dad ef o’r deml yr hon oedd yn Jerwsalem, fel yr yfai y brenin a’i dywysogion, ei wragedd a’i ordderchadon, ynddynt. Yna y dygwyd y llestri aur a ddygasid o deml tŷ DDUW, yr hwn oedd yn Jerwsalem: a’r brenin a’i dywysogion, ei wragedd a’i ordderchadon, a yfasant ynddynt. Yfasant win, a molianasant y duwiau o aur, ac o arian, o bres, o haearn, o goed, ac o faen.
Yr awr honno bysedd llaw dyn a ddaethant allan, ac a ysgrifenasant ar gyfer y canhwyllbren ar galchiad pared llys y brenin; a gwelodd y brenin ddarn y llaw a ysgrifennodd. Yna y newidiodd lliw y brenin, a’i feddyliau a’i cyffroesant ef, fel y datododd rhwymau ei lwynau ef, ac y curodd ei liniau ef y naill wrth y llall. Gwaeddodd y brenin yn groch am ddwyn i mewn yr astronomyddion, y Caldeaid, a’r brudwyr: a llefarodd y brenin, a dywedodd wrth ddoethion Babilon, Pa ddyn bynnag a ddarlleno yr ysgrifen hon, ac a ddangoso i mi ei dehongliad, efe a wisgir â phorffor, ac a gaiff gadwyn aur am ei wddf, a chaiff lywodraethu yn drydydd yn y deyrnas. Yna holl ddoethion y brenin a ddaethant i mewn; ond ni fedrent ddarllen yr ysgrifen, na mynegi i’r brenin ei dehongliad. Yna y mawr gyffrôdd y brenin Belsassar, a’i wedd a ymnewidiodd ynddo, a’i dywysogion a synasant.
Y frenhines, oherwydd geiriau y brenin a’i dywysogion, a ddaeth i dŷ y wledd: a llefarodd y frenhines, a dywedodd, Bydd fyw byth, frenin; na chyffroed dy feddyliau di, ac na newidied dy wedd. Y mae gŵr yn dy deyrnas, yr hwn y mae ysbryd y duwiau sanctaidd ynddo; ac yn nyddiau dy dad y caed ynddo ef oleuni, a deall, a doethineb fel doethineb y duwiau: a’r brenin Nebuchodonosor dy dad a’i gosododd ef yn bennaeth y dewiniaid, astronomyddion, Caldeaid, a brudwyr, sef y brenin dy dad di. Oherwydd cael yn y Daniel hwnnw, yr hwn y rhoddes y brenin iddo enw Beltesassar, ysbryd rhagorol, a gwybodaeth a deall, deongl breuddwydion, ac egluro damhegion, a datod clymau: galwer Daniel yr awron, ac efe a ddengys y dehongliad. Yna y ducpwyd Daniel o flaen y brenin: a llefarodd y brenin, a dywedodd wrth Daniel, Ai tydi yw Daniel, yr hwn wyt o feibion caethglud Jwda, y rhai a ddug y brenin fy nhad i o Jwda? Myfi a glywais sôn amdanat, fod ysbryd y duwiau ynot, a chael ynot ti oleuni, a deall, a doethineb rhagorol. Ac yr awr hon dygwyd y doethion, yr astronomyddion, o’m blaen, i ddarllen yr ysgrifen hon, ac i fynegi i mi ei dehongliad: ond ni fedrent ddangos dehongliad y peth. Ac mi a glywais amdanat ti, y medri ddeongl deongliadau, a datod clymau; yr awr hon os medri ddarllen yr ysgrifen, a hysbysu i mi ei dehongliad, tydi a wisgir â phorffor, ac a gei gadwyn aur am dy wddf, ac a gei lywodraethu yn drydydd yn y deyrnas.
Yna yr atebodd Daniel, ac y dywedodd o flaen y brenin, Bydded dy roddion i ti, a dod dy anrhegion i arall; er hynny yr ysgrifen a ddarllenaf i’r brenin, a’r dehongliad a hysbysaf iddo. O frenin, y DUW goruchaf a roddes i Nebuchodonosor dy dad di frenhiniaeth, a mawredd, a gogoniant, ac anrhydedd. Ac oherwydd y mawredd a roddasai efe iddo, y bobloedd, y cenhedloedd, a’r ieithoedd oll, oedd yn crynu ac yn ofni rhagddo ef: yr hwn a fynnai a laddai, a’r hwn a fynnai a gadwai yn fyw; hefyd y neb a fynnai a gyfodai, a’r neb a fynnai a ostyngai. Eithr pan ymgododd ei galon ef, a chaledu o’i ysbryd ef mewn balchder, efe a ddisgynnwyd o orseddfa ei frenhiniaeth, a’i ogoniant a dynasant oddi wrtho: Gyrrwyd ef hefyd oddi wrth feibion dynion, a gwnaethpwyd ei galon fel bwystfil, a chyda’r asynnod gwylltion yr oedd ei drigfa: â gwellt y porthasant ef fel eidion, a’i gorff a wlychwyd gan wlith y nefoedd, hyd oni wybu mai y DUW goruchaf oedd yn llywodraethu ym mrenhiniaeth dynion, ac yn gosod arni y neb a fynno. A thithau, Belsassar ei fab ef, ni ddarostyngaist dy galon, er gwybod ohonot hyn oll; Eithr ymddyrchefaist yn erbyn Arglwydd y nefoedd, a llestri ei dŷ ef a ddygasant ger dy fron di, a thithau a’th dywysogion, dy wragedd a’th ordderchadon, a yfasoch win ynddynt; a thi a foliennaist dduwiau o arian, ac o aur, o bres, haearn, pren, a maen, y rhai ni welant, ac ni chlywant, ac ni wyddant ddim: ac nid anrhydeddaist y DUW y mae dy anadl di yn ei law, a’th holl ffyrdd yn eiddo. Yna yr anfonwyd darn y llaw oddi ger ei fron ef, ac yr ysgrifennwyd yr ysgrifen hon.
A dyma yr ysgrifen a ysgrifennwyd: MENE, MENE, TECEL, UFFARSIN. Dyma ddehongliad y peth: MENE; DUW a rifodd dy frenhiniaeth, ac a’i gorffennodd. TECEL; Ti a bwyswyd yn y cloriannau, ac a’th gaed yn brin. PERES: Rhannwyd dy frenhiniaeth, a rhoddwyd hi i’r Mediaid a’r Persiaid. Yna y gorchmynnodd Belsassar, a hwy a wisgasant Daniel â phorffor, ac â chadwyn aur am ei wddf; a chyhoeddwyd amdano, y byddai efe yn drydydd yn llywodraethu yn y frenhiniaeth.