Yna y syrthiodd Nebuchodonosor y brenin ar ei wyneb, ac a addolodd Daniel; gorchmynnodd hefyd am offrymu iddo offrwm ac arogl-darth. Atebodd y brenin a dywedodd wrth Daniel, Mewn gwirionedd y gwn mai eich DUW chwi yw DUW y duwiau, ac Arglwydd y brenhinoedd, a datguddydd dirgeledigaethau, oherwydd medru ohonot ddatguddio y dirgelwch hwn. Yna y brenin a fawrygodd Daniel, ac a roddes iddo roddion mawrion lawer; ac efe a’i gwnaeth ef yn bennaeth ar holl dalaith Babilon, ac yn ben i’r swyddogion ar holl ddoethion Babilon. Yna Daniel a ymbiliodd â’r brenin, ac yntau a osododd Sadrach, Mesach, ac Abednego ar lywodraeth talaith Babilon: ond Daniel a eisteddodd ym mhorth y brenin.
Darllen Daniel 2
Gwranda ar Daniel 2
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Daniel 2:46-49
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos