Gan ddywedyd, Oni orchmynasom ni, gan orchymyn i chwi nad athrawiaethech yn yr enw hwn? ac wele, chwi a lanwasoch Jerwsalem â’ch athrawiaeth, ac yr ydych yn ewyllysio dwyn arnom ni waed y dyn hwn. A Phedr a’r apostolion a atebasant ac a ddywedasant, Rhaid yw ufuddhau i Dduw yn fwy nag i ddynion. Duw ein tadau ni a gyfododd i fyny Iesu, yr hwn a laddasoch chwi, ac a groeshoeliasoch ar bren. Hwn a ddyrchafodd Duw â’i ddeheulaw, yn Dywysog, ac yn Iachawdwr, i roddi edifeirwch i Israel, a maddeuant pechodau. A nyni ydym ei dystion ef o’r pethau hyn, a’r Ysbryd Glân hefyd, yr hwn a roddes Duw i’r rhai sydd yn ufuddhau iddo ef.
Darllen Actau’r Apostolion 5
Gwranda ar Actau’r Apostolion 5
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Actau’r Apostolion 5:28-32
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos