Yna efe a drodd ei wyneb at y pared, ac a weddïodd at yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Atolwg, ARGLWYDD, cofia yr awr hon i mi rodio ger dy fron di mewn gwirionedd, ac â chalon berffaith, a gwneuthur ohonof yr hyn oedd dda yn dy olwg di. A Heseceia a wylodd ag wylofain mawr. A chyn myned o Eseia allan i’r cyntedd canol, daeth gair yr ARGLWYDD ato, gan ddywedyd, Dychwel, a dywed wrth Heseceia blaenor fy mhobl i, Fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Dafydd dy dad, Clywais dy weddi di, gwelais dy ddagrau; wele fi yn dy iacháu di; y trydydd dydd yr ei di i fyny i dŷ yr ARGLWYDD. A mi a chwanegaf at dy ddyddiau di bymtheng mlynedd, ac a’th waredaf di a’r ddinas hon o law brenin Asyria: diffynnaf hefyd y ddinas hon er fy mwyn fy hun, ac er mwyn Dafydd fy ngwas.
Darllen 2 Brenhinoedd 20
Gwranda ar 2 Brenhinoedd 20
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 2 Brenhinoedd 20:2-6
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos