Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Samuel 3:1-14

1 Samuel 3:1-14 BWM

A’r bachgen Samuel a wasanaethodd yr ARGLWYDD gerbron Eli. A gair yr ARGLWYDD oedd werthfawr yn y dyddiau hynny; nid oedd weledigaeth eglur. A’r pryd hwnnw, pan oedd Eli yn gorwedd yn ei fangre, wedi i’w lygaid ef ddechrau tywyllu, fel na allai weled; A chyn i lamp DUW ddiffoddi yn nheml yr ARGLWYDD, lle yr oedd arch DUW, a Samuel oedd wedi gorwedd i gysgu: Yna y galwodd yr ARGLWYDD ar Samuel. Dywedodd yntau, Wele fi. Ac efe a redodd at Eli, ac a ddywedodd, Wele fi; canys gelwaist arnaf. Yntau a ddywedodd, Ni elwais i; dychwel a gorwedd. Ac efe a aeth ac a orweddodd. A’r ARGLWYDD a alwodd eilwaith, Samuel. A Samuel a gyfododd, ac a aeth at Eli, ac a ddywedodd, Wele fi; canys gelwaist arnaf. Yntau a ddywedodd, Na elwais, fy mab; dychwel a gorwedd. Ac nid adwaenai Samuel eto yr ARGLWYDD, ac nid eglurasid iddo ef air yr ARGLWYDD eto. A’r ARGLWYDD a alwodd Samuel drachefn y drydedd waith. Ac efe a gyfododd, ac a aeth at Eli, ac a ddywedodd, Wele fi; canys gelwaist arnaf. A deallodd Eli mai yr ARGLWYDD a alwasai ar y bachgen. Am hynny Eli a ddywedodd wrth Samuel, Dos, gorwedd: ac os geilw efe arnat, dywed, Llefara, ARGLWYDD; canys y mae dy was yn clywed. Felly Samuel a aeth ac a orweddodd yn ei le. A daeth yr ARGLWYDD, ac a safodd, ac a alwodd megis o’r blaen, Samuel, Samuel. A dywedodd Samuel, Llefara; canys y mae dy was yn clywed. A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Samuel, Wele fi yn gwneuthur peth yn Israel, yr hwn pwy bynnag a’i clywo, fe a ferwina ei ddwy glust ef. Yn y dydd hwnnw y dygaf i ben yn erbyn Eli yr hyn oll a ddywedais am ei dŷ ef, gan ddechrau a diweddu ar unwaith. Mynegais hefyd iddo ef, y barnwn ei dŷ ef yn dragywydd, am yr anwiredd a ŵyr efe; oherwydd i’w feibion haeddu iddynt felltith, ac nas gwaharddodd efe iddynt. Ac am hynny y tyngais wrth dŷ Eli, na wneir iawn am anwiredd tŷ Eli ag aberth, nac â bwyd-offrwm byth.