A phan ddychwelodd Saul oddi ar ôl y Philistiaid, mynegwyd iddo, gan ddywedyd, Wele Dafydd yn anialwch En-gedi. Yna y cymerth Saul dair mil o wŷr etholedig o holl Israel; ac efe a aeth i geisio Dafydd a’i wŷr, ar hyd copa creigiau y geifr gwylltion. Ac efe a ddaeth at gorlannau y defaid, ar y ffordd; ac yno yr oedd ogof: a Saul a aeth i mewn i wasanaethu ei gorff. A Dafydd a’i wŷr oedd yn aros yn ystlysau yr ogof. A gwŷr Dafydd a ddywedasant wrtho ef, Wele y dydd am yr hwn y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyt, Wele fi yn rhoddi dy elyn yn dy law di, fel y gwnelych iddo megis y byddo da yn dy olwg. Yna Dafydd a gyfododd, ac a dorrodd gwr y fantell oedd am Saul yn ddirgel. Ac wedi hyn calon Dafydd a’i trawodd ef, oherwydd iddo dorri cwr mantell Saul. Ac efe a ddywedodd wrth ei wŷr, Na ato yr ARGLWYDD i mi wneuthur y peth hyn i’m meistr, eneiniog yr ARGLWYDD, i estyn fy llaw yn ei erbyn ef; oblegid eneiniog yr ARGLWYDD yw efe. Felly yr ataliodd Dafydd ei wŷr â’r geiriau hyn, ac ni adawodd iddynt gyfodi yn erbyn Saul. A Saul a gododd i fyny o’r ogof, ac a aeth i ffordd. Ac ar ôl hyn Dafydd a gyfododd, ac a aeth allan o’r ogof; ac a lefodd ar ôl Saul, gan ddywedyd, Fy arglwydd frenin. A phan edrychodd Saul o’i ôl, Dafydd a ostyngodd ei wyneb tua’r ddaear, ac a ymgrymodd.
A Dafydd a ddywedodd wrth Saul, Paham y gwrandewi eiriau dynion, gan ddywedyd, Wele, y mae Dafydd yn ceisio niwed i ti? Wele, dy lygaid a welsant y dydd hwn ddarfod i’r ARGLWYDD dy roddi di yn fy llaw i heddiw yn yr ogof: a dywedwyd wrthyf am dy ladd di; ond fy enaid a’th arbedodd di: a dywedais, Nid estynnaf fy llaw yn erbyn fy meistr; canys eneiniog yr ARGLWYDD yw efe. Fy nhad hefyd, gwêl, ie gwêl gwr dy fantell yn fy llaw i: canys pan dorrais ymaith gwr dy fantell di, heb dy ladd; gwybydd a gwêl nad oes yn fy llaw i ddrygioni na chamwedd, ac na phechais i’th erbyn: eto yr wyt ti yn hela fy einioes i, i’w dala hi. Barned yr ARGLWYDD rhyngof fi a thithau, a dialed yr ARGLWYDD fi arnat ti: ond ni bydd fy llaw i arnat ti.