Ac Eli oedd hen iawn; ac efe a glybu yr hyn oll a wnaethai ei feibion ef i holl Israel, a’r modd y gorweddent gyda’r gwragedd oedd yn ymgasglu yn finteioedd wrth ddrws pabell y cyfarfod. Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Paham y gwnaethoch y pethau hyn? canys clywaf gan yr holl bobl hyn ddrygair i chwi. Nage, fy meibion: canys nid da y gair yr ydwyf fi yn ei glywed; eich bod chwi yn peri i bobl yr ARGLWYDD droseddu. Os gŵr a becha yn erbyn gŵr, y swyddogion a’i barnant ef: ond os yn erbyn yr ARGLWYDD y pecha gŵr, pwy a eiriol drosto ef? Ond ni wrandawsant ar lais eu tad, am y mynnai yr ARGLWYDD eu lladd hwynt.
Darllen 1 Samuel 2
Gwranda ar 1 Samuel 2
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 1 Samuel 2:22-25
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos