A meibion Eli oedd feibion Belial: nid adwaenent yr ARGLWYDD. A defod yr offeiriad gyda’r bobl oedd, pan offrymai neb aberth, gwas yr offeiriad a ddeuai pan fyddai y cig yn berwi, â chigwain dridant yn ei law; Ac a’i trawai hi yn y badell, neu yn yr efyddyn, neu yn y crochan, neu yn y pair: yr hyn oll a gyfodai y gigwain, a gymerai yr offeiriad iddo. Felly y gwnaent yn Seilo i holl Israel y rhai oedd yn dyfod yno. Hefyd cyn arogl-losgi ohonynt y braster, y deuai gwas yr offeiriad hefyd, ac a ddywedai wrth y gŵr a fyddai yn aberthu, Dyro gig i’w rostio i’r offeiriad: canys ni fyn efe gennyt gig berw, ond amrwd. Ac os gŵr a ddywedai wrtho, Gan losgi llosgant yn awr y braster, ac yna cymer fel yr ewyllysio dy galon: yntau a ddywedai wrtho, Nage; yn awr y rhoddi ef: ac onid e, mi a’i cymeraf trwy gryfder. Am hynny pechod y llanciau oedd fawr iawn gerbron yr ARGLWYDD: canys ffieiddiodd dynion offrwm yr ARGLWYDD.
Darllen 1 Samuel 2
Gwranda ar 1 Samuel 2
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 1 Samuel 2:12-17
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos