Yna y dywedodd Dafydd wrth y Philistiad, Ti ydwyt yn dyfod ataf fi â chleddyf, ac â gwaywffon, ac â tharian; a minnau ydwyf yn dyfod atat ti yn enw ARGLWYDD y lluoedd, DUW byddinoedd Israel, yr hwn a geblaist ti. Y dydd hwn y dyry yr ARGLWYDD dydi yn fy llaw i, a mi a’th drawaf di, ac a gymeraf ymaith dy ben oddi arnat; ac a roddaf gelanedd gwersyll y Philistiaid y dydd hwn i ehediaid y nefoedd, ac i fwystfilod y ddaear; fel y gwypo yr holl ddaear fod DUW yn Israel. A’r holl gynulleidfa hon a gânt wybod, nad â chleddyf, nac â gwaywffon y gwared yr ARGLWYDD: canys eiddo yr ARGLWYDD yw y rhyfel, ac efe a’ch rhydd chwi yn ein llaw ni.
Darllen 1 Samuel 17
Gwranda ar 1 Samuel 17
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 1 Samuel 17:45-47
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos