Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Pedr 2:13-25

1 Pedr 2:13-25 BWM

Ymddarostyngwch oblegid hyn i bob dynol ordinhad, oherwydd yr Arglwydd: pa un bynnag ai i’r brenin, megis goruchaf; Ai i’r llywiawdwyr, megis trwyddo ef wedi eu danfon er dial ar y drwgweithredwyr, a mawl i’r gweithredwyr da. Canys felly y mae ewyllys Duw, fod i chwi trwy wneuthur daioni ostegu anwybodaeth dynion ffolion: Megis yn rhyddion, ac nid â rhyddid gennych megis cochl malais, eithr fel gwasanaethwyr Duw. Perchwch bawb. Cerwch y brawdoliaeth. Ofnwch Dduw. Anrhydeddwch y brenin. Y gweision, byddwch ddarostyngedig gyda phob ofn i’ch meistriaid; nid yn unig i’r rhai da a chyweithas, eithr i’r rhai anghyweithas hefyd. Canys hyn sydd rasol, os yw neb oherwydd cydwybod i Dduw yn dwyn tristwch, gan ddioddef ar gam. Oblegid pa glod yw, os, pan bechoch, a chael eich cernodio, y byddwch dda eich amynedd? eithr os, a chwi’n gwneuthur yn dda, ac yn dioddef, y byddwch dda eich amynedd, hyn sydd rasol gerbron Duw. Canys i hyn y’ch galwyd hefyd: oblegid Crist yntau a ddioddefodd drosom ni, gan adael i ni esampl, fel y canlynech ei ôl ef: Yr hwn ni wnaeth bechod, ac ni chaed twyll yn ei enau: Yr hwn, pan ddifenwyd, ni ddifenwodd drachefn; pan ddioddefodd, ni fygythiodd; eithr rhoddodd ar y neb sydd yn barnu yn gyfiawn: Yr hwn ei hun a ddug ein pechodau ni yn ei gorff ar y pren; fel, gwedi ein marw i bechodau, y byddem byw i gyfiawnder: trwy gleisiau yr hwn yr iachawyd chwi. Canys yr oeddech megis defaid yn myned ar gyfeiliorn; eithr yn awr chwi a ddychwelwyd at Fugail ac Esgob eich eneidiau.

Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â 1 Pedr 2:13-25