Canys er fy mod yn rhydd oddi wrth bawb, mi a’m gwneuthum fy hun yn was i bawb, fel yr enillwn fwy. Ac mi a ymwneuthum i’r Iddewon megis yn Iddew, fel yr enillwn yr Iddewon; i’r rhai dan y ddeddf, megis dan y ddeddf, fel yr enillwn y rhai sydd dan y ddeddf; I’r rhai di-ddeddf, megis di-ddeddf, (a minnau heb fod yn ddi-ddeddf i Dduw, ond dan y ddeddf i Grist,) fel yr enillwn y rhai di-ddeddf. Ymwneuthum i’r rhai gweiniaid megis yn wan, fel yr enillwn y gweiniaid: mi a ymwneuthum yn bob peth i bawb, fel y gallwn yn hollol gadw rhai. A hyn yr wyf fi yn ei wneuthur er mwyn yr efengyl, fel y’m gwneler yn gyd-gyfrannog ohoni.
Darllen 1 Corinthiaid 9
Gwranda ar 1 Corinthiaid 9
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 1 Corinthiaid 9:19-23
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos