Wele, yr wyf yn dywedyd i chwi ddirgelwch: Ni hunwn ni oll, eithr ni a newidir oll mewn moment, ar drawiad llygad, wrth yr utgorn diwethaf: Canys yr utgorn a gân, a’r meirw a gyfodir yn anllygredig, a ninnau a newidir. Oherwydd rhaid i’r llygradwy hwn wisgo anllygredigaeth, ac i’r marwol hwn wisgo anfarwoldeb. A phan ddarffo i’r llygradwy hwn wisgo anllygredigaeth, ac i’r marwol hwn wisgo anfarwoldeb, yna y bydd yr ymadrodd a ysgrifennwyd, Angau a lyncwyd mewn buddugoliaeth. O angau, pa le mae dy golyn? O uffern, pa le mae dy fuddugoliaeth? Colyn angau yw pechod, a grym pechod yw’r gyfraith. Ond i Dduw y byddo’r diolch, yr hwn sydd yn rhoddi i ni fuddugoliaeth trwy ein Harglwydd Iesu Grist. Am hynny, fy mrodyr annwyl, byddwch sicr, a diymod, a helaethion yng ngwaith yr Arglwydd yn wastadol; a chwi yn gwybod nad yw eich llafur chwi yn ofer yn yr Arglwydd.
Darllen 1 Corinthiaid 15
Gwranda ar 1 Corinthiaid 15
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 1 Corinthiaid 15:51-58
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos