A phe byddai gennyf broffwydoliaeth, a gwybod ohonof y dirgelion oll, a phob gwybodaeth; a phe bai gennyf yr holl ffydd, fel y gallwn symudo mynyddoedd, ac heb gennyf gariad, nid wyf fi ddim. A phe porthwn y tlodion â’m holl dda, a phe rhoddwn fy nghorff i’m llosgi, ac heb gariad gennyf, nid yw ddim llesâd i mi. Y mae cariad yn hirymaros, yn gymwynasgar; cariad nid yw yn cenfigennu; nid yw cariad yn ymffrostio, nid yw yn ymchwyddo, Nid yw yn gwneuthur yn anweddaidd, nid yw yn ceisio yr eiddo ei hun, ni chythruddir, ni feddwl ddrwg; Nid yw lawen am anghyfiawnder, ond cydlawenhau y mae â’r gwirionedd; Y mae yn dioddef pob dim, yn credu pob dim, yn gobeithio pob dim, yn ymaros â phob dim.
Darllen 1 Corinthiaid 13
Gwranda ar 1 Corinthiaid 13
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 1 Corinthiaid 13:2-7
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos