Canys da yw Iehofa, Am byth y pery Ei gariad, A’i ffyddlondeb drwy bob cenhedlaeth. SALM C Salm a genid pan offrymid yr aberth-diolch yn y Deml, ac yn ddiau wedi ei chyfansoddi ar gyfer hynny. 1—3. Galwad i addoli Iehofa â chân a miwsig yn Ei Deml. Holl dir Israel a feddylir wrth “yr holl ddaear”. Ef a wnaeth Israel yn bobl briod iddo Ei hun. Y mae “A’i eiddo Ef ydym” yn well na “ac nid ni ein hunain”. Ffigur cyffredin yn y Salmau ydyw Iehofa fel bugail Israel, Salm 23; 74:1; 79:13. 4, 5. Efallai mai ystyr “diolch” yn 5 ydyw aberth diolch. Prif byrth y Deml a feddylir, sef Porth y Gogledd, Porth y Dwyrain a Phorth y De. Pan gysylltir ‘da’ â Duw, ei ystyr yw ‘caredig’. 1. Meddyliwch am brudd-der llawer o’n hemynau ni heddiw. Onid oes lle i fwy o emynau o natur y Salm hon? 2. Pa gyswllt sydd rhwng y dôn “Yr Hen Ganfed” ar Salm hon? A ydych yn ystyried mydryddiad Edmwnd Prys or Salm hon yn un hapus (gwel Emyn 191 yn y Llawlyfr Moliant)? Onid emynau o’r natur yma sydd fwyaf addas i addoliad cyhoeddus? 3. Pa bryd y ceir y nodyn gorfoleddus yn emynau yr Egilwys? Ai mewn cyfnod o ddiwygiad ynteu mewn cyfnod o drai?
Darllen Salmau 100
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Salmau 100:5
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos