S. Marc 16
16
1Ac wedi darfod y Sabbath, Mair Magdalen, a Mair mam Iago, a Shalome, a brynasant ber-aroglau, fel, wedi dyfod o honynt, yr enneinient Ef. 2Ac yn fore iawn, y dydd cyntaf o’r wythnos, daethant at y bedd, ar ol codiad yr haul; 3a dywedasant wrth eu gilydd, Pwy a dreigla ymaith i ni y maen oddiwrth ddrws y bedd? 4(Ac wedi edrych i fynu gwelsant y treiglasid y maen ymaith,) canys yr oedd efe yn fawr iawn. 5Ac wedi myned i mewn i’r bedd, gwelsant ŵr ieuangc yn eistedd o’r tu dehau, wedi ei ddilladu â gwisg wen; a synnasant yn ddirfawr. 6Ac efe a ddywedodd wrthynt, na ddirfawr-synnwch: yr Iesu yr ydych yn Ei geisio, y Natsaread, yr Hwn a groes-hoeliwyd. Cyfododd; nid yw Efe yma: wele y lle y dodasant Ef. 7Eithr ewch ymaith; dywedwch wrth Ei ddisgyblion, ac wrth Petr, Myned o’ch blaen chwi i Galilea y mae; yno Ef a welwch, fel y dywedodd wrthych. 8Ac wedi myned allan, ffoisant oddiwrth y bedd, canys yr oedd arnynt grynfa a syndod; ac wrth neb ni ddywedasant ddim, canys dychrynwyd hwynt.
9Ac wedi adgyfodi yn fore ar y dydd cyntaf o’r wythnos, ymddangosodd yn gyntaf i Mair Magdalen, o’r hon y bwriasai allan saith o gythreuliaid; 10a hithau, wedi myned, a fynegodd i’r rhai a fuasent gydag Ef, ac oeddynt yn galaru ac yn gwylofain. 11A hwythau, wedi clywed Ei fod yn fyw ac y gwelwyd ganddi, a anghoeliasant.
12Ac wedi y pethau hyn, i ddau o honynt, yn ymdeithio, yr amlygwyd Ef mewn gwedd arall, wrth fyned o honynt i’r wlad. 13A hwy, wedi myned ymaith, a fynegasant i’r lleill, ac iddynt hwy ni chredent.
14A chwedi’n, i’r un ar ddeg eu hunain yn eu lled-orwedd wrth y ford yr amlygwyd Ef, a dannododd iddynt eu hanghrediniaeth a’u calon-galedwch, gan mai i’r rhai a’i gwelsent Ef wedi adgyfodi, na roisent gred; 15a dywedodd wrthynt, Wedi myned o honoch i’r holl fyd, pregethwch yr Efengyl i’r holl greadigaeth. 16Yr hwn a gredo ac a fedyddiwyd fydd gadwedig; ac yr hwn a anghredo a gondemnir. 17Ac i’r rhai a gredant, yr arwyddion hyn a’u canlynant: Yn Fy enw y bwriant allan gythreuliaid; 18a thafodau newyddion y llefarant; seirph a godant hwy; ac os dim marwol a yfant, ni wna iddynt ddim niweid; ar gleifion eu dwylaw a roddant, ac iacheir hwynt.
19Yr Arglwydd Iesu, gan hyny, ar ol llefaru wrthynt, a gymmerwyd i fynu i’r nef, ac eisteddodd ar ddeheulaw Duw. 20A hwythau, wedi myned allan, a bregethasant ym mhob man, yr Arglwydd yn cydweithio ac yn cadarnhau y Gair trwy’r arwyddion a oedd yn canlyn. Amen.
Dewis Presennol:
S. Marc 16: CTB
Uwcholeuo
Rhanna
Copi

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Cyfieithiad Briscoe 1894. Cynhyrchwyd y casgliad digidol hwn gan Gymdeithas y Beibl yn 2020-21.