Logo YouVersion
Eicon Chwilio

S. Luc 4

4
1A’r Iesu yn llawn o’r Yspryd Glân, a ddychwelodd oddiwrth yr Iorddonen, ac a arweiniwyd gan yr Yspryd yn yr anialwch ddeugain niwrnod, 2yn cael ei demtio gan ddiafol; ac ni fwyttaodd ddim yn y dyddiau hyny; ac wedi eu diweddu, chwant bwyd fu Arno. 3A dywedodd diafol Wrtho, Os Mab Duw wyt, dywaid wrth y garreg hon i fyned yn fara. 4Ac attebodd yr Iesu iddo, Ysgrifenwyd, 5“Nid ar fara yn unig y bydd byw dyn.” Ac wedi Ei ddwyn Ef i fynu, dangosodd Iddo holl deyrnasoedd y byd mewn munud o amser. 6A dywedodd diafol Wrtho, I Ti y rhoddaf yr awdurdod hon i gyd ac eu gogoniant; canys i mi eu traddodwyd, ac i bwy bynnag yr ewyllysiaf y rhoddaf hi; 7os Tydi, gan hyny, a ymochreini o’m blaen, bydd yr oll yn eiddo Ti. 8A chan atteb iddo, dywedodd yr Iesu, Ysgrifenwyd, “I Iehofah dy Dduw yr ymochreini, ac Ef yn unig a wasanaethi.” 9A dug efe Ef i Ierwshalem, a gosododd Ef ar binacl y deml, a dywedodd Wrtho, 10Os Mab Duw wyt, bwrw Dy Hun oddi yma i lawr, canys ysgrifenwyd,
“I’w angylion y gorchymyn Efe am Danat;
11Ac ar eu dwylaw y’th ddygant,
Rhag un amser i Ti daro Dy droed wrth garreg.”
12A chan atteb, dywedodd yr Iesu wrtho, Dywedwyd, “Ni themti Iehofah dy Dduw.” 13Ac wedi gorphen yr holl demtasiwn, diafol a ymadawodd ag Ef tan amser cyfaddas.
14A dychwelodd yr Iesu yn nerth yr Yspryd i Galilea, a son a aeth allan am Dano trwy’r holl fro oddi amgylch; 15ac Efe a ddysgai yn eu sunagogau, yn cael Ei ogoneddu gan bawb.
16A daeth i Natsareth, lle y magesid Ef, ac aeth i mewn, yn ol Ei arfer, ar ddydd y Sabbath, i’r sunagog, a safodd i fynu i ddarllain; 17a rhoddwyd Atto Lyfr y Prophwyd Eshaiah; ac wedi agor o Hono y llyfr, cafodd y lle yr oedd yn ysgrifenedig,
18“Yspryd Iehofah sydd Arnaf,
Canys enneiniodd fi i efengylu i dlodion;
Danfonodd fi i gyhoeddi i gaethion ollyngdod,
Ac i ddeillion gaffaeliad golwg,
19I ddanfon ymaith ddrylliedigion, mewn rhydd-deb,
I gyhoeddi blwyddyn foddhaol Iehofah.”
20Ac wedi cau’r llyfr, a’i roddi i’r gweinidog, eisteddodd; a llygaid pawb yn y sunagog oeddynt yn craffu Arno. 21A dechreuodd ddywedyd wrthynt, Heddyw y cyflawnwyd yr Ysgrythyr hon yn eich clustiau. 22A phawb a dystiolaethent Iddo, ac a ryfeddent wrth y geiriau grasusol oedd yn dyfod allan o’i enau; a dywedasant, Onid hwn yw mab Ioseph? 23A dywedodd wrthynt, Yr oll o honoch a adroddwch Wrthyf y ddammeg hon, “Feddyg, iacha dy hun;” cymmaint ag a glywsom eu gwneuthur yn Caphernahwm, gwna hefyd yma yn Dy wlad Dy hun. 24A dywedodd, Yn wir y dywedaf wrthych, Nid yw un prophwyd yn gymmeradwy yn ei wlad ei hun. 25Mewn gwirionedd y dywedaf wrthych, Llawer o wragedd gweddwon oedd, yn nyddiau Elias, yn yr Israel, pan gauwyd y nef dair blynedd a chwe mis, fel y bu newyn mawr trwy’r holl dir, 26ac nid at yr un o honynt yr anfonwyd Elias, oddieithr i Sarepta yngwlad Tsidon at wraig weddw; 27a llawer o wahan-gleifion oedd yn Israel yn amser Elisha y prophwyd, ac nid yr un o honynt a lanhawyd oddieithr Naaman y Tsuriad. 28A llanwyd o ddigofaint bawb a oedd yn y sunagog, 29wrth glywed y pethau hyn, ac wedi codi o honynt bwriasant Ef allan o’r ddinas, a dygasant Ef hyd ael y bryn ar yr hwn yr oedd eu dinas wedi ei hadeiladu, i’w fwrw Ef bendramwnwgl i lawr: 30ond Efe, wedi myned drwy eu canol, a aeth Ei ffordd.
31A daeth i wared i Caphernahwm, dinas yn Galilea; ac yr oedd yn eu dysgu hwynt ar y Sabbath; 32ac aruthr fu ganddynt o herwydd Ei ddysgad, canys gydag awdurdod yr oedd Ei ymadrodd. 33Ac yn y sunagog yr oedd dyn a chanddo yspryd cythraul aflan, a gwaeddodd â llais mawr, 34Och, pa beth sydd i ni a wnelom â Thi, Iesu y Natsaread? A ddaethost i’n difetha ni? Adwaenwn Di pwy ydwyt, Sanct Duw. 35A dwrdiodd yr Iesu Ef, gan ddywedyd, Distawa, a thyred allan o hono ef. Ac wedi ei daflu ef i’r canol, y cythraul a ddaeth allan o hono, heb wneuthur dim niweid iddo. 36Ac yr oedd aruthredd ar bawb, a chyd-lefarasant â’u gilydd gan ddywedyd, Pa beth yw’r gair hwn, canys gydag awdurdod a nerth y gorchymyn Efe i’r ysprydion aflan, a dyfod allan y maent? 37Ac aeth allan son am Dano i bob man o’r wlad oddi amgylch.
38Ac wedi cyfodi o Hono o’r sunagog, aeth i mewn i dŷ Shimon; a chwegr Shimon oedd wedi ei dala gan gryd mawr; a gofynasant iddo drosti. 39A chan sefyll uwch ei phen hi, dwrdiodd y cryd, ac efe a’i gadawodd hi; ac wedi cyfodi o honi yn uniawn, gwasanaethodd arnynt.
40Ac wrth fachludo o’r haul cymmaint ag oedd a chanddynt gleifion o amryw glefydau, a ddaethant â hwynt Atto Ef: ac Efe, gan roddi Ei ddwylaw ar bob un o honynt, a’u hiachaodd hwynt; 41a dyfod allan yr oedd cythreuliaid, o laweroedd, dan waeddi a dywedyd, Ti yw Mab Duw; a chan eu dwrdio, ni adawai iddynt ddweud y gwyddent mai Efe oedd y Crist.
42A phan aethai hi yn ddydd, wedi myned allan yr aeth i le anial; a’r torfeydd a’i ceisiasant Ef, ac a ddaethant hyd Atto, ac a’i hattaliasant rhag myned oddi wrthynt; ond Efe a ddywedodd wrthynt, 43I’r dinasoedd eraill hefyd y mae rhaid i Mi efengylu teyrnas Dduw, canys i hyny y’m danfonwyd.
44Ac yr oedd Efe yn pregethu yn sunagogau Galilea.

Dewis Presennol:

S. Luc 4: CTB

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda