S. Luc 2
2
1A bu yn y dyddiau hyny, yr aeth allan orchymyn oddiwrth Cesar Augustus, i gofrestru’r holl fyd. 2A’r cofrestriad hwn oedd y cyntaf, pan yr oedd Cwirinius yn rhaglaw ar Syria. 3Ac aeth pawb i’w cofrestru, bob un i’w ddinas ei hun. 4Ac aeth Ioseph hefyd i fynu o Galilea, o ddinas Natsareth, i Iwdea, i ddinas Dafydd, yr hon a elwir Bethlehem, 5gan ei fod o dŷ a thylwyth Dafydd, i’w gofrestru gyda Mair, yr hon a ddyweddïasid yn wraig iddo, a hithau yn feichiog. 6A bu, tra yr oeddynt yno, cyflawnwyd y dyddiau i esgor o honi, 7ac esgorodd ar ei Mab cyntaf-anedig, a rhwymodd Ef mewn cadachau, a dododd Ef mewn preseb gan nad oedd iddynt le yn y lletty.
8Ac yr oedd bugeiliaid yn y wlad honno, yn aros yn y maes, ac yn gwylied, liw nos, dros eu praidd. 9Ac angel yr Arglwydd a safodd gerllaw iddynt, a gogoniant yr Arglwydd a ddisgleiriodd o’u hamgylch; ac ofnasant ag ofn mawr. 10A dywedodd yr angel wrthynt, Nac ofnwch; canys wele, efangylu yr wyf i chwi lawenydd mawr, yr hwn a fydd i’r holl bobl,
11 Ganwyd i chwi heddyw Iachawdwr, yr Hwn yw Crist yr Arglwydd, yn ninas Dafydd.
12A hwn fydd i chwi yn arwydd, Cewch blentyn wedi ei rwymo mewn cadachau ac yn gorwedd mewn preseb. 13Ac yn ddisymmwth yr oedd gyda’r angel liaws o lu nefol yn moliannu Duw, ac yn dywedyd,
14Gogoniant yn y goruchafion, i Dduw,
Ac, ar y ddaear, dangnefedd i ddynion y boddlonwyd ynddynt.
15A bu, pan aeth yr angylion ymaith oddiwrthynt i’r nef, y bugeiliaid a ddywedasant wrth eu gilydd, Awn drosodd, ynte, hyd Bethlehem, a gwelwn y peth hwn a ddigwyddodd, yr hwn y bu i’r Arglwydd ei hyspysu i ni. 16A daethant ar frys, a chawsant Mair ac Ioseph, a’r plentyn yn gorwedd yn y preseb. 17A phan welsant, hyspysasant am yr ymadrodd a lefarasid wrthynt am y plentyn hwn. 18A phawb o’r a’u clywsant, a ryfeddasant am y pethau a lefarwyd gan y bugeiliaid wrthynt. 19Ond Mair a gadwai yr holl ymadroddion hyn, gan eu hystyried yn ei chalon. 20A dychwelodd y bugeiliaid, gan ogoneddu a moliannu Duw am yr holl bethau a glywsent ac a welsent, fel y llefarasid wrthynt.
21A phan gyflawnwyd wyth niwrnod i amdorri Arno, galwyd Ei enw IESU, yr hwn a alwesid gan yr angel cyn Ei ymddwyn yn y groth.
22A phan gyflawnwyd dyddiau eu puredigaeth yn ol Cyfraith Mosheh, dygasant Ef i fynu i Ierwshalem, i’w gyflwyno i’r Arglwydd; 23(fel yr ysgrifenwyd yn Nghyfraith yr Arglwydd, “Pob gwrryw yn agoryd croth, sanctaidd i’r Arglwydd a elwir Ef,”) 24ac i roddi aberth yn ol yr hyn a ddywedwyd yn Nghyfraith yr Arglwydd, “Par o durturod, neu ddau gyw colommen.” 25Ac wele, yr oedd gŵr yn Ierwshalem, a’i enw Shimeon, a’r gŵr hwn oedd gyfiawn a duwiol, yn disgwyl am ddiddanwch yr Israel: a’r Yspryd Glân oedd arno. 26Ac iddo ef yr oedd wedi ei hyspysu gan yr Yspryd Glân na welai angau cyn na welai Crist yr Arglwydd. 27A daeth, yn yr Yspryd, i’r deml; ac wrth ddwyn i mewn o’i rieni y plentyn Iesu, er mwyn gwneuthur o honynt am Dano, 28yn ol Defod y Gyfraith, efe hefyd a’i cymmerth Ef yn ei freichiau, ac a fendithiodd Dduw, ac a ddywedodd,
29Yr awr hon y gollyngi Dy was, O Arglwydd,
Yn ol Dy air, mewn tangnefedd,
30Canys fy llygaid a welsant Dy iachawdwriaeth,
31Yr hon a barottoaist ger bron wyneb yr holl bobloedd;
32Goleuni yn ddatguddiad cenhedloedd,
Ac yn ogoniant Dy bobl Israel.
33Ac yr oedd Ei dad Ef, a’i fam yn rhyfeddu wrth y pethau a lefarwyd am Dano. 34A’u bendithio hwynt a wnaeth Shimeon, a dywedodd wrth Mair, Ei fam,
Wele, Hwn a osodwyd yn gwymp ac yn gyfodiad llawer yn yr Israel,
Ac yn arwydd y dywedir yn ei erbyn;
35A thrwy dy enaid di dy hun yr aiff cleddyf,
Fel y datguddier meddyliau o lawer o galonnau.
36Ac yr oedd Anna brophwydes, merch Phanwel, o lwyth Asher, a hon wedi myned i ddyddiau oedranus, ac wedi byw gyda gŵr saith mlynedd o’i morwyndod, 37a hithau yn weddw am bedair a phedwar ugain mlynedd, yr hon nid ymadawai â’r deml, gydag ymprydiau a gweddïau y gwasanaethai nos a dydd; 38hithau hefyd, yr awr honno, gan sefyll ger llaw, a ddiolchodd i Dduw, ac a lefarodd am Dano Ef wrth y rhai oll oedd yn disgwyl ymwared Ierwshalem. 39A phan orphenasent bob peth yn ol Cyfraith yr Arglwydd, dychwelasant i Galilea, i’w dinas, Natsareth.
40A’r plentyn a gynnyddodd, ac a gryfhawyd, yn gyflawn o ddoethineb; a gras Duw oedd Arno.
41Ac elai ei rieni, bob blwyddyn, i Ierwshalem, ar wyl y Pasg; 42a phan oedd Efe yn ddeuddeng mlwydd oed, a myned i fynu o honynt yn ol arfer yr wyl; 43ac wedi cyflawni’r dyddiau, wrth ddychwelyd o honynt, arhosodd y bachgen Iesu yn Ierwshalem; 44ac ni wyddai Ei rieni; a chan dybied Ei fod Ef yn y fintai, aethant daith diwrnod, ac edrychasant am Dano ymhlith eu ceraint a’u cydnabod: 45a chan na chawsant Ef, dychwelasant i Ierwshalem, gan edrych am Dano. 46A bu, ar ol tridiau y cawsant Ef yn y deml, yn eistedd ynghanol yr athrawon, ac yn gwrando arnynt, ac yn ymofyn â hwynt. 47A synnodd pawb o’r a’i clywent Ef, wrth Ei ddeall a’i attebion. 48A phan welsant Ef, bu aruthr ganddynt; ac Wrtho Ei fam a ddywedodd, Fy mhlentyn, paham y gwnaethost fel hyn â ni? Wele, dy dad a myfi yn ofidus a edrychasom am Danat. 49A dywedodd Efe wrthynt, Paham yr “edrychech am Danaf?” Oni wyddech mai yn nhŷ Fy Nhad y mae rhaid i Mi fod? 50A hwy ni ddeallasant yr ymadrodd a lefarodd Efe wrthynt. 51Ac aeth i wared gyda hwynt, a daeth i Natsareth, ac yr oedd yn ddarostyngedig iddynt; ac Ei fam a gadwai yr holl bethau hyn yn ei chalon.
52A’r Iesu a aeth rhagddo mewn doethineb, a chorpholaeth, a ffafr gyda Duw a dynion.
Dewis Presennol:
S. Luc 2: CTB
Uwcholeuo
Rhanna
Copi

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Cyfieithiad Briscoe 1894. Cynhyrchwyd y casgliad digidol hwn gan Gymdeithas y Beibl yn 2020-21.