Gan hyny, wedi ciniawa o honynt wrth Shimon Petr y dywedodd yr Iesu, Shimon mab Iona, ai hoff genyt Fi yn fwy na’r rhai hyn? Dywedodd yntau Wrtho, Y mae, Arglwydd: Tydi a wyddost mai Dy garu yr wyf. Dywedodd Efe wrtho, Portha Fy ŵyn. Dywedodd wrtho drachefn, yr ail waith, Shimon mab Iona, Ai hoff genyt Fi? Dywedodd yntau Wrtho, Y mae, Arglwydd; Tydi a wyddost mai Dy garu yr wyf. Dywedodd Efe wrtho, Bugeilia Fy nefaid. Dywedodd wrtho y drydedd waith, Shimon mab Iona, Ai Fy ngharu yr wyt? Poenwyd Petr am ddywedyd o Hono wrtho y drydedd waith, Ai Fy ngharu yr wyt? a dywedodd Wrtho, Arglwydd, pob peth Tydi a wyddost; Tydi a genfyddi mai Dy garu yr wyf.
Darllen S. Ioan 21
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: S. Ioan 21:15-17
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos