Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Marc 16

16
Y dydd cyntaf o’r wythnos
1Ac wedi i’r Dydd Gorffwys fynd heibio prynodd Mair o Fagdala a Mair mam Iago a Salome beraroglau, gan feddwl mynd i’w eneinio. 2Felly fe ddaethon nhw at y bedd yn fore iawn wedi codiad haul y dydd cyntaf o’r wythnos. 3Fe ofynnen nhw i’w gilydd, “Pwy a gawn ni i symud y garreg o ddrws y bedd?”
4Ond wedi codi eu golwg fe welson nhw fod y garreg, er cymaint oedd, eisoes wedi ei symud o’r neilltu.
5Wedi mynd i mewn i’r bedd, fe welson nhw ddyn ifanc yn eistedd ar y llaw dde, a gwisg wen amdano, ac fe gawson nhw eu synnu. 6Ond fe ddywedodd wrthyn nhw, “Peidiwch â synnu. Rydych yn chwilio am yr Iesu y Nasaread a gafodd ei groeshoelio. Y mae wedi codi. Dyw ef ddim yma. Edrychwch, dyna’r man lle y rhoeson nhw ef i orwedd. 7Ond ewch i ddweud wrth ei ddisgyblion ac wrth Bedr, ‘Y mae ef yn mynd o’ch blaen i Galilea, a chewch ei weld ef yno fel y dywedodd wrthych’.”
8Yna aethon nhw allan a ffoi oddi wrth y bedd, wedi eu dal gan ddychryn a syndod. Ddywedson nhw ddim un gair wrth neb am fod arnyn nhw ofn.
9Wedi iddo atgyfodi’n fore y dydd cyntaf o’r wythnos fe ymddangosodd yr Iesu yn gyntaf i Fair o Fagdala, y wraig honno roedd wedi bwrw saith gythraul ohoni. 10Aeth hi â’r newydd i’r rhai a fuasai gydag ef, pan oedden nhw’n drist a galarus. 11Ond er clywed ei fod yn fyw ac iddi hi ei weld, fynnen nhw ddim credu. 12Yn ddiweddarach ymddangosodd ar wedd arall i ddau ohonyn nhw pan oedden nhw yn cerdded i’r wlad. 13Ond fynnai neb gredu’r rheiny chwaith pan ddaethon nhw i ddweud wrth y lleill. 14Wedi hyn ymddangosodd ef i’r un ar ddeg tra roedden nhw wrth fwyd a danododd iddyn nhw eu hanghrediniaeth a’u hystyfnigrwydd am iddyn nhw wrthod credu’r rhai oedd wedi ei weld wedi atgyfodi. 15Yna dywedodd wrthyn nhw, “Ewch i bob rhan o’r byd, a chyhoeddwch y Newyddion Da i bob creadur. 16Fe achubir y rhai sy’n credu ac a gaiff eu bedyddio, ond fe gondemnir y rhai na chredan nhw ddim. 17Ac am y rhai sy’n credu, fe wnân nhw y gwyrthiau hyn — bwrw allan gythreuliaid yn f’enw i, a llefaru mewn ieithoedd dieithr; 18ddaw dim niwed iddyn nhw o afael mewn seirff neu yfed gwenwyn marwol; a phan ddodan nhw eu dwylo ar gleifion bydd y rheiny’n cael iachâd.”
19Wedi iddo lefaru wrthyn nhw fel hyn, fe gymerwyd yr Arglwydd Iesu i fyny i’r nef, ac eisteddodd ar law dde Duw. 20Fe aethon nhwythau allan a phregethu ymhob man, â’r Arglwydd yn cydweithio â nhw ac yn profi gwirionedd eu pregethu drwy’r gwyrthiau a ddilynai.
Hen ddiwedd arall
9Fe ddaethon nhw â’r holl gyfarwyddiadau hyn yn gryno i Bedr a’i gyfeillion. Yna fe anfonodd yr Iesu ei hun y neges santaidd na ddiflanna o waredigaeth dragwyddol drwyddyn nhw o’r dwyrain i’r gorllewin.

Dewis Presennol:

Marc 16: FfN

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda