Marc 11
11
Brenin ar asyn
1A phan oedden nhw yn nesu at Jerwsalem, ac wedi cyrraedd Bethffage a Bethania gerllaw mynydd yr Olewydd, danfonodd yr Iesu ddau o’i ddisgyblion ar neges.
2“Ewch i’r pentref sy gogyfer â chi,” meddai, “ac ar eich ffordd i mewn fe welwch ebol asyn wedi’i rwymo, a neb erioed wedi’i farchogaeth. Gollyngwch ef, a dowch ag ef yma. 3Os gofyn rhywun i chi, ‘Paham y gwnewch y peth hwn?’ dywedwch, ‘Y mae ar y Meistr ei eisiau ac fe’i gyr yn ôl yma yn y fan’.”
4Ymaith â nhw, a chael ebol wedi ei glymu y tu allan i ddrws, allan ar yr heol. A nhwythau ar fin ei ollwng 5dywedodd y rhai a safai gerllaw wrthyn nhw, “Beth yw eich meddwl yn tynnu’r ebol yn rhydd?”
6Fe roeson nhw’r ateb a orchmynnodd yr Iesu iddyn nhw; a gadawodd y dynion iddyn nhw fynd.
7Yna fe ddaethon â’r ebol at yr Iesu, ac wedi ei gyfrwyo â’u dillad, eisteddodd yr Iesu ar ei gefn. 8Taenodd llawer eu dillad hefyd ar yr heol, a gwasgarodd rhai eraill frigau deiliog roedden nhw wedi’u torri o’r caeau. 9Gwaeddai’r rhai oedd ar y blaen a’r rhai oedd yn dilyn, “Hosanna! Bendigedig yw’r hwn sy’n dod yn enw’r Arglwydd. 10Bendigedig yw’r teyrnasiad sydd ar ddod, teyrnasiad ein tad Dafydd. Hosanna yn yr uchelderau!”
Y ffigysbren ddeiliog
11Aeth yr Iesu i mewn i Jerwsalem, ac i’r Deml, gan edrych ar bopeth o ddeutu, ond oherwydd ei bod yn hwyr aeth allan gyda’r deuddeg i Fethania. 12Trannoeth, wedi iddyn nhw ymadael â Bethania, daeth arno chwant bwyd. 13Ac wedi sylwi ar ffigysbren yn llawn dail yn y pellter aeth yn ei flaen i weld a gâi ryw ffrwyth arno. Ond wedi cyrraedd ni chafodd ddim ond dail, oherwydd nid oedd yn dymor ffigys. 14Yna dywedodd wrth y pren, “Na fwytaed neb ffrwyth ohonot byth mwy.”
A chlywodd y disgyblion ef yn dweud hynny.
Glanhau’r Deml
15Yna fe ddaethon nhw i Jerwsalem, ac wedi iddo fynd i mewn i’r Deml dechreuodd yrru allan y rhai oedd yn gwerthu a phrynu yno. Dymchwelodd hefyd fyrddau’r cyfnewidwyr arian a seddau’r gwerthwyr colomennod 16gan warafun i neb gario ei nwyddau drwy’r Deml. 17Hefyd, dechreuodd ddysgu yno a dweud, “Onid yw’n ysgrifenedig, ‘Fy nhŷ i a elwir yn dŷ gweddi i’r holl genhedloedd’, ond dyma chi wedi ei droi yn ogof lladron,”
18A daeth y peth i glyw’r prif offeiriaid ac athrawon y Gyfraith, ac fe aethon nhw i chwilio am ryw ffordd i’w ddifetha, oherwydd roedden nhw yn ei ofni gan fod yr holl dyrfa dan gyfaredd ei neges.
Y ffigysbren eto
19A phan ddaeth yr hwyr fe aethon nhw allan o’r ddinas. 20Yn gynnar y bore wedyn, wrth fynd heibio fe welson nhw fod y ffigysbren wedi gwywo i’r bôn. 21A chofiodd Pedr, a dywedodd wrth yr Iesu, “Athro, edrych, y mae’r ffigysbren y rhoist felltith arni, wedi gwywo.”
22Atebodd yntau, “Os oes gennych ffydd yn Nuw, 23credwch fi, petai rhywun yn dweud wrth y mynydd hwn, ‘Coder di o’th wraidd, a lluchier di i’r môr,’ ac yntau yn credu heb amau dim y daw’r peth a ddywed i ben, fe ddigwydd y peth iddo. 24Rwy’n dweud wrthych, felly, beth bynnag a geisiwch mewn gweddi, credwch i chi ei gael, ac fe’i cewch. 25Hefyd, pan fyddwch yn sefyll i weddïo, os oes gennych ryw gŵyn yn erbyn neb, maddeuwch y peth iddo, fel y gall eich Tad yn y nef faddau i chithau bob bai.”
Pwy a’th awdurdododd?
27Fe ddaethon nhw eto i Jerwsalem. A phan oedd yr Iesu’n cerdded o gylch y Deml daeth y prif offeiriaid ac athrawon y Gyfraith a’r henuriaid ato 28a gofyn iddo, “Pa hawl sydd gennyt i wneud y pethau hyn, a phwy roddodd yr hawl i ti i’w gwneud?”
29Dywedodd yr Iesu wrthyn nhw, “Fe ofynnaf i chithau un cwestiwn, ac os atebwch ef fe ddywedaf finnau wrthych drwy ba hawl y gwnaf y pethau hyn. 30Beth am fedydd Ioan, ai o Dduw yr oedd, ynteu o ddynion? Rhowch eich ateb.”
31Aeth hi’n ddadl rhyngddyn nhw a’i gilydd, a dweud, “Os dywedwn mai o Dduw yr oedd, fe ddywed yntau, ‘Pam, felly, na fuasech wedi ei gredu?’ 32A ddywedwn ni, ‘O ddynion?’” — ond roedd arnyn nhw ofn y dyrfa gan fod pawb o’r farn fod Ioan yn broffwyd gwirioneddol. 33Felly, fe roeson nhw’r ateb, “Ni wyddom ni.”
Dywedodd yr Iesu wrthyn nhw, “Os felly, ddywedaf innau ddim wrthych chi pa hawl sydd gennyf i wneud y pethau hyn.”
Dewis Presennol:
Marc 11: FfN
Uwcholeuo
Rhanna
Copi

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 1971
© British and Foreign Bible Society 1971