Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Marc 1

1
Y dechrau
1Dyma ddechrau’r Newyddion Da am Iesu Grist, Mab Duw. 2Fel yr ysgrifennodd y proffwyd Eseia,
“Dyma fy negesydd a anfonaf o’th flaen di, fe baratoa ef y ffordd i ti.
3Llais un yn galw mewn tir anial,
‘Paratowch ffordd yr Arglwydd, gwnewch lwybrau unionsyth ar ei gyfer’.”
4Felly fe ymddangosodd Ioan Fedyddiwr yn yr anialwch yn cyhoeddi bedydd fel arwydd o newid ffordd o fyw, er mwyn cael maddeuant pechodau. 5Ac roedd pawb o holl wlad Jwdea a dinas Jerwsalem yn dylifo ato, ac yntau’n eu bedyddio yn yr Iorddonen wrth iddyn nhw gyffesu’u pechodau. 6Roedd Ioan yn gwisgo dillad o flew camel, a gwregys o groen am ei ganol; roedd yn bwyta locustiaid a mêl gwyllt. 7Dyma a gyhoeddodd: “Y mae’r un sy’n dod ar f’ôl i yn gryfach na fi; dydw i ddim digon da i blygu i ddatod carrai ei sandalau. 8Fe’ch bedyddiais i chi â dŵr, fe fydd ef yn eich bedyddio chi â’r Ysbryd Glân.”
Iesu’n dod
9Tua’r adeg yma, dyma’r Iesu’n dod o Nasareth yng Ngalilea, a bedyddiodd Ioan ef yn yr Iorddonen. 10A’r foment y daeth yr Iesu i fyny o’r dŵr, gwelodd y nefoedd yn agor, a’r Ysbryd, fel colomen, yn disgyn arno. 11A daeth llais o’r nefoedd, “Ti yw fy Mab, fy anwylyd. Ti sydd wrth fy modd.”
12Yn union wedyn, gyrrodd yr Ysbryd ef i’r tir anial. 13Bu yno ddeugain niwrnod yn cael ei demtio gan Satan. Roedd gyda’r anifeiliaid gwyllt, a’r angylion yn gweini arno.
14Ar ôl i Ioan gael ei roi yng ngharchar daeth yr Iesu i Galilea, gan gyhoeddi Newyddion Da Duw, 15a dweud, “Y mae’r amser wedi dod, a theyrnasiad Duw wedi agosáu. Newidiwch eich ffordd o fyw, a chredwch y Newyddion Da.”
Galw’r disgyblion
16Roedd yr Iesu’n cerdded ar lan Môr Galilea pan welodd Simon, a’i frawd Andreas. Roedden nhw yn gollwng rhwyd i’r llyn, oherwydd pysgotwyr oedden nhw.
17“Dewch gyda mi,” meddai’r Iesu wrthyn nhw, “ac fe’ch dysgaf chi i ddal dynion.”
18A dyma nhw’n gadael eu rhwydau ar unwaith ac yn ei ddilyn. 19Wedi cerdded ymlaen ychydig gwelodd Iago, fab Sebedeus, a’i frawd Ioan, nhwythau hefyd mewn cwch yn trwsio’r rhwydau. 20Dyma fe’n eu galw nhwythau ar unwaith, a dyma nhw’n gadael eu tad Sebedeus yn y cwch gyda’r gweithwyr, ac yn mynd ar ei ôl ef.
Y dyn ag ysbryd aflan
21Ac fe ddaethon i Gapernaum, ac ar y Dydd Gorffwys aeth ef i Synagog a dechrau dysgu. 22Roedd y rhai a oedd yn clywed yn synnu at ei ddysgeidiaeth, oherwydd roedd ef yn dysgu fel un a chanddo awdurdod, ac nid fel eu hathrawon y Gyfraith. 23Ac roedd yn y synagog ddyn ag ysbryd aflan, a dyma hwnnw’n gweiddi’n uchel, 24“Pam rwyt ti’n ymyrryd â ni, Iesu o Nasareth? A ddaethost ti i’n difetha ni? Gwn pwy wyt — Un Santaidd Duw.”
25Ond dyma’r Iesu yn ei geryddu. “Bydd ddistaw,” meddai, “a thyrd allan ohono.”
26Yna, gan ysgwyd y dyn yn ffyrnig, a gweiddi’n uchel, aeth yr ysbryd aflan allan ohono. 27Syfrdanwyd pawb, a dyma nhw’n dechrau holi ei gilydd, “Beth yw hyn? Dysgeidiaeth newydd gydag awdurdod! Y mae’n gorchymyn hyd yn oed yr ysbrydion aflan, ac maen nhw’n ufuddhau iddo.”
28Ac aeth y sôn amdano ar unwaith i bob rhan o Galilea.
Iacháu
29Yna’n syth dyma nhw’n gadael y synagog a mynd i dŷ Simon ac Andreas; aeth Iago ac Ioan gyda nhw. 30Roedd mam-yng-nghyfraith Simon yn gorwedd yn wael mewn twymyn, a dyma nhw’n dweud wrtho ef amdani yn syth. 31Aeth ati, gafaelodd yn ei llaw a chynorthwyodd hi i godi. Dyma’r dwymyn yn ei gadael, ac aeth i weini arnyn nhw.
32Pan ddaeth yr hwyr, wedi machlud haul, fe ddaethon nhw â’r cleifion i gyd ato, a rhai yng ngafael cythreuliaid. 33Roedd yr holl ddinas wedi ymgasglu wrth y drws. 34Fe iachaodd lawer o gleifion o amryw glefydau, ac fe fwriodd allan lawer o gythreuliaid. Doedd ef ddim yn fodlon i’r ysbrydion drwg siarad dim amdano, roedden nhw’n gwybod pwy oedd.
Gweddïo a phregethu
35Yn gynnar iawn y bore, cyn iddi ddyddio, cododd a mynd allan. Aeth i le unig, ac yno y bu yn gweddïo. 36Aeth Simon a’r rhai oedd gydag ef i chwilio amdano, 37ac wedi ei gael medden nhw, “Y mae pawb yn chwilio amdanat.”
38Atebodd yntau, “Dewch i ni gael mynd i’r pentrefi eraill yn y gymdogaeth, imi gael pregethu yno hefyd, oherwydd er mwyn hynny y deuthum allan.”
39Felly fe aeth drwy Galilea i gyd, gan bregethu yn y synagogau a bwrw allan gythreuliaid.
Glanhau gwahanglwyf
40Un tro daeth gŵr gwahanglwyfus ato, a chan benlinio o’i flaen, ymbiliodd ag ef am help.
“Os wyt ti’n dewis,” meddai wrtho, “fe elli di fy ngwella i.”
41Gan deimlo i’r byw, dyma’r Iesu yn estyn ei law, yn cyffwrdd ag ef, ac yn dweud, “Rydw i’n dewis, bydd yn iach.”
42Ac ar unwaith aeth y gwahanglwyf oddi wrtho, ac roedd yn iach. 43Ac wedi ei rybuddio yn llym, danfonodd yr Iesu ef i ffwrdd ar unwaith 44gan ddweud wrtho, “Dim gair wrth neb am hyn, ond dos a dangos dy hun i’r offeiriad, ac offryma dros dy lanhad, yn ôl gorchymyn Moses, i brofi i bawb dy fod yn iach.”
45Ond wedi ymadael dechreuodd y dyn siarad yn ddiddiwedd a lledu’r hanes dros y lle fel na allai’r Iesu mwyach fynd yn agored i unrhyw dref, ond arhosai allan mewn lleoedd diarffordd. Er hynny, deuai pobl ato o bob cyfeiriad.

Dewis Presennol:

Marc 1: FfN

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda