Mathew 16
16
Ceisio arwydd
1Daeth y Phariseaid a’r Sadwceaid ato gan ofyn, er mwyn rhoi prawf arno, am roi iddyn nhw arwydd o’r nef. 2Ond dyma’r ateb a gawson nhw ganddo, “Pan fydd hi’n hwyrhau fe fyddwch yn dweud, ‘Tywydd braf — mae’r awyr yn goch’. 3Yn y bore meddech chi, ‘Fe fydd hi’n storm heddiw, mae’r awyr yn goch ac yn fygythiol.’ Fe wyddoch sut i ddarllen arwyddion yr awyr, ond wyddoch chi ddim sut i ddarllen arwyddion yr amserau. 4Cenhedlaeth ddrwg ac annuwiol sy’n ceisio arwydd; a’r unig arwydd a gaiff hi yw arwydd y proffwyd Jona.”
Ac fe drodd a’u gadael nhw.
Rhybudd
5Yna fe ddaeth y disgyblion ato yr ochr draw i’r llyn, wedi anghofio dod â bara gyda nhw.
6“Gwyliwch a chymerwch ofal rhag burum y Phariseaid a’r Sadwceaid,” meddai Iesu wrthyn nhw.
7Dyma nhw’n dechrau trafod ymysg ei gilydd, “Am na ddaethom ni â’r bara.”
8Fe wyddai ef beth oedd yn eu meddyliau, ac meddai wrthyn nhw, “Pam yr holl siarad yma rhyngoch chi a’ch gilydd am nad oes gennych fara? Mor fach yw eich ffydd chi! 9Ydych chi ddim yn deall eto? Ydych chi ddim yn cofio am bum torth y pum mil, a sawl basgedaid wnaethoch chi godi? 10Neu saith dorth y pedair mil, a sawl basgedaid oedd ar ôl? 11Pam na ddeëllwch chi nad am fara roeddwn i’n sôn wrthych? Cymerwch ofal rhag burum y Phariseaid a’r Sadwceaid.”
12Yna fe ddeallson nhw nad yn erbyn y burum arferol roedd yn eu rhybuddio ond yn erbyn dysgeidiaeth y Phariseaid a’r Sadwceaid.
Pwy yw ef?
13Pan gyrhaeddodd Iesu gyffiniau Cesarea Philipi fe ofynnodd i’w ddisgyblion, “Pwy mae pobl yn dweud yw Mab y Dyn?”
14“Mae rhai’n dweud Ioan Fedyddiwr,” medden nhw, “rhai Eleias, eraill Jeremeia, neu un o’r proffwydi.”
15“Ond pwy rydych chi yn ei ddweud ydw i?” meddai yntau.
16Atebodd Simon Pedr, “Ti yw’r Meseia, Mab y Duw byw.”
17“Mor ddedwydd yw hi arnat ti, Simon, fab Jona,” meddai Iesu wrtho. “Nid dynion o gig a gwaed a ddatguddiodd hyn i ti, ond fy Nhad Nefol. 18A gwrando! Pedr wyt ti; ac ar y graig hon rwy’n mynd i godi f’eglwys, ac ni all angau ei gorchfygu. 19Ac fe rof iti allweddau teyrnas Nefoedd; beth bynnag y byddi di’n ei wahardd ar y ddaear fe fydd yn cael ei wahardd yn y nefoedd, a pheth bynnag y byddi di’n ei ganiatáu ar y ddaear fe’i caniateir yn y nefoedd.”
20Yna rhybuddiodd ei ddisgyblion nad oedden nhw i ddweud wrth neb mai Ef oedd y Meseia.
Proffwydoliaeth a cherydd
21O’r awr honno dechreuodd Iesu egluro i’w ddisgyblion fod yn rhaid iddo fynd i Jerwsalem a dioddef llawer ar law’r henuriaid, y prif offeiriaid, ac athrawon y Gyfraith; a chael ei atgyfodi y trydydd dydd. 22A dyma Pedr yn gafael ynddo a’i geryddu: “Bydd drugarog wrthyt dy hun, Arglwydd, chaiff hyn byth ddigwydd i ti.”
23Trodd at Pedr, ac meddai, “Dos oddi yma, Satan; dwyt ti’n ddim ond rhwystr i mi. Meddyliau dynion yw dy feddyliau di, nid meddyliau Duw.”
Y gost o’i ddilyn ef
24Yna meddai Iesu wrth ei ddisgyblion, “Os oes rhywun am fy nilyn i, rhaid iddo wadu hunan yn llwyr, codi’i groes, a ’nghanlyn i. 25Mae’r sawl sydd am achub ei fywyd ei hun yn ei golli; ond mae’r sawl sy’n colli ei fywyd er fy mwyn i yn darganfod gwir fywyd. 26Faint gwell yw dyn o ennill y byd i gyd a cholli ei wir fywyd? Beth yn wir a fedr dyn ei roi yn gyfnewid am ei wir fywyd? 27Oherwydd fe ddaw Mab y Dyn yng ngogoniant ei Dad gyda’i angylion, a’r pryd hwnnw fe dâl ef i bob un am yr hyn a wnaeth. 28Credwch fi, ymhlith y rhai sy’n sefyll yma y mae rhai na phrofan nhw flas marwolaeth nes gweld Mab y Dyn yn dod yn ei Deyrnas.”
Dewis Presennol:
Mathew 16: FfN
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 1971
© British and Foreign Bible Society 1971