Ar ôl brecwast, meddai’r Iesu wrth Simon Pedr, “Simon, fab Ioan, wyt ti’n fy ngharu i yn fwy na’r rhain?” “Ydwyf, Arglwydd,” atebodd, “fe wyddost ti fy mod i’n dy garu di.” Meddai’r Iesu wrtho, “Portha fy ŵyn.” A’r ail waith fe ofynnodd, “Simon, fab Ioan, wyt ti’n fy ngharu i?” “Ydw, Arglwydd,” atebodd, “fe wyddost fy mod i’n dy garu di.” “Bugeilia fy nefaid,” meddai wrtho. A’r trydydd tro fe ofynnodd, “Simon, fab Ioan, wyt ti’n fy ngharu i?” Roedd Pedr wedi ei frifo am iddo ofyn y drydedd waith, “Wyt ti’n fy ngharu i?” “Arglwydd,” atebodd, “fe wyddost ti bopeth. Fe wyddost fy mod i’n dy garu di.” “Portha fy nefaid,” meddai wrtho.
Darllen Ioan 21
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Ioan 21:15-17
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos