Teithiodd Iesu a'r disgyblion dros y môr i wlad y Gerasiniaid. Fel roedd Iesu'n gadael y cwch, daeth dyn ato ag ysbryd aflan ynddo. Roedd y dyn yn byw ymysg y beddau. Ni allai neb ei glymu na'i rwymo, oherwydd bob tro y rhwymwyd ei draed a'i ddwylo llwyddai i'w ryddhau ei hun, ac ni fedrai neb ei drechu. Ddydd a nos byddai'n gweiddi a thorri ei hun gyda cherrig ymysg y beddau ac ar y mynyddoedd. Pan welodd e Iesu o bell, rhedodd ato, ymgrymodd a gwaeddodd, “Beth wyt ti ei eisiau gyda fi, Iesu, Mab y Duw Goruchaf? Yn enw Duw, paid â'm poenydio.” Dwedodd Iesu, “Ysbryd aflan, dos allan o hwn!” Gofynnodd Iesu iddo, “Beth ydy dy enw di?” “Tyrfa ydy fy enw i,” meddai, “a hynny am fod cymaint ohonon ni.” Yna, erfyniodd yn daer ar Iesu beidio â gyrru'r ysbrydion aflan allan o'r wlad.
Ar ochr y mynydd, gerllaw, roedd cenfaint fawr o foch yn pori. Erfyniodd yr ysbrydion aflan ar Iesu, “Anfon ni i'r moch, gad i ni fynd i mewn iddyn nhw.” A dyna a wnaeth. Aeth yr ysbrydion aflan allan o'r dyn ac i mewn i'r moch. Yna, rhuthrodd y genfaint o tua dwyfil o foch, dros y dibyn i'r môr, a boddi. Rhedodd bugeiliaid y moch i ffwrdd ac adrodd yr hanes yn y dre a'r wlad gyfagos, a thyrrodd y bobl yno i weld beth oedd wedi digwydd. Daethon nhw at Iesu, a gwelson nhw'r dyn y bu'r ysbryd aflan ynddo yn eistedd wedi'i wisgo ac yn ymddwyn yn gall a synhwyrol a daeth ofn arnyn nhw. Dwedodd y llygaid‐dystion am yr hyn a ddigwyddodd i'r dyn â'r cythreuliaid ac am y moch hefyd. Wedi clywed, erfynion nhw ar Iesu fynd i ffwrdd o'u hardal. Fel roedd Iesu'n dychwelyd i'r cwch, gofynnodd y dyn y bu'r ysbryd aflan ynddo os gallai ddod gydag ef. Atebodd Iesu, “Dos adre at dy deulu a dwed wrthyn nhw gymaint y mae'r Arglwydd wedi'i wneud drosot ti, a'r ffordd mae e wedi tosturio wrthyt.” Aeth y dyn i ffwrdd a dechreuodd gyhoeddi'r holl bethau a wnaeth Iesu drosto; ac roedd pawb yn Decapolis yn synnu.