Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Tobit 1

1
Rhagair
1Dyma hanes Tobit fab Tobiel, fab Ananiel, fab Adwel, fab Gabael, fab Raffael, fab Ragwel, o linach Asiel ac o lwyth Nafftali. 2Yn ystod teyrnasiad Salmaneser#1:2 Groeg, Enemesarau. Felly hefyd yn adn. 13, etc. yn Asyria, fe'i cipiwyd yn gaeth o Thisbe, lle yng Ngalilea Uchaf i'r de o Cedes Nafftali ac i'r gogledd o Hasor, neu o gyfeiriad ffordd y gorllewin, i'r gogledd o Peor.#1:2 Groeg, Phogor.
Bore Oes Tobit
3Yr oeddwn i, Tobit, wedi dilyn llwybrau'r gwirionedd a gweithredoedd da ar hyd fy mywyd, gan fod yn hael iawn fy nghymwynas i'm tylwyth ac i'm cyd-genedl a aeth gyda mi mewn caethiwed i Ninefe yng ngwlad yr Asyriaid. 4Yn wir, pan oeddwn yn ŵr ifanc, a minnau'n dal i fyw ar dir Israel, fy mamwlad, cefnodd holl lwyth Nafftali, fy nghyndad, ar dŷ Dafydd#1:4 Ychwanega'r Groeg fy nghyndad. ac ar Jerwsalem, y ddinas a ddewiswyd o holl lwythau Israel iddynt offrymu aberthau ynddi. Yno y codwyd y deml, preswylfa Duw, a'i chysegru i'r holl genedlaethau am byth. 5Yr oedd fy nhylwyth oll, sef teulu Nafftali fy nghyndad, yn offrymu aberthau ar holl fryniau Galilea i'r llo a osododd Jeroboam brenin Israel yn Dan. 6Ar fy mhen fy hun yn unig, felly, yr euthum droeon i Jerwsalem ar gyfer y gwyliau, fel y gorchmynnwyd i holl Israel mewn ordinhad oesol. Byddwn yn prysuro i Jerwsalem gan gymryd gyda mi y blaenffrwyth a'r cyntafanedig, degwm y gwartheg a chneifiad cyntaf y defaid, a'u rhoi i feibion Aaron, yr offeiriaid, o flaen yr allor; 7ac yn yr un modd rhoddwn i feibion Lefi, y cynorthwywyr yn Jerwsalem, ddegwm yr ŷd, y gwin a'r olew, y pomgranadau a'r ffigys a'r ffrwythau eraill. Byddwn yn cyfrannu ail ddegwm mewn arian am y chwe blynedd, 8ac yn mynd a'i wario yn Jerwsalem bob blwyddyn, gan ddosbarthu'r arian i'r amddifaid ac i'r gweddwon yn ogystal ag i'r proselytiaid oedd wedi eu cysylltu eu hunain â phlant Israel. Byddwn yn mynd i fyny a'i ddosbarthu iddynt bob trydedd flwyddyn. Byddem yn ei fwyta yn unol â'r ordinhad a ordeiniwyd am y pethau hyn yng Nghyfraith Moses, ac yn unol â'r gorchmynion a orchmynnodd Debora, mam Ananiel ein taid; oherwydd fe'm gadawyd yn amddifad ar ôl marwolaeth fy nhad.
Tobit yn y Gaethglud
9Wedi i mi dyfu'n ddyn, cymerais wraig o linach ein teulu. Cefais fab ganddi a rhoi'r enw Tobias arno. 10Pan gipiwyd fi'n gaeth i Asyria, a minnau'n un o'r gaethglud, deuthum i Ninefe. Yr oedd fy nhylwyth oll a'm cyd-genedl yn cymryd o fwyd y Cenhedloedd, 11ond ymgedwais i rhag bwyta mymryn o fwyd y Cenhedloedd. 12A chan i mi ddal yn ffyddlon i'm Duw â'm holl fryd, 13rhoddodd y Goruchaf imi wedd a enillodd ffafr gerbron Salmaneser; myfi fyddai'n prynu pob peth at ei ddefnydd. 14Byddwn yn teithio i Media i brynu iddo yno, hyd ei farw. Gadewais godau o arian, gwerth deg talent, yng ngwlad Media yng ngofal Gabael, brawd Gabri. 15Pan fu farw Salmaneser, daeth ei fab Senacherib yn frenin yn ei le, ac fe ataliwyd yr hawl i deithio i Media, fel na ellais deithio yno mwyach.
16Yng nghyfnod Salmaneser bûm yn hael iawn fy nghymwynas i'm tylwyth o'm cyd-genedl: 17byddwn yn rhannu fy mwyd â'r newynog, ac yn rhoi dillad i'r noeth; a phan ddigwyddwn daro ar un o'm cyd-genedl yn farw, a'i gorff wedi ei daflu dros furiau Ninefe, byddwn yn ei gladdu. 18Cleddais hefyd bwy bynnag a laddwyd gan Senacherib wedi iddo ffoi yn ôl o Jwdea ar adeg y farnedigaeth a ddug Brenin y Nef arno ar gyfrif ei holl gableddau. Oherwydd yn ei ddicter fe laddodd lawer o blant Israel, ond byddwn yn dwyn eu cyrff ac yn eu claddu; ac er i Senacherib chwilio amdanynt, ni ddaeth o hyd iddynt. 19Ond aeth rhywun o blith gwŷr Ninefe a hysbysu'r brenin mai myfi oedd yn eu claddu. Ymguddiais, a phan sylweddolais fod y brenin yn gwybod amdanaf a bod chwilio amdanaf i'm lladd, cododd arswyd arnaf, a rhedais i ffwrdd. 20Yna cipiwyd fy holl eiddo. Ni adawyd dim imi nas cymerwyd i drysorfa'r brenin, ar wahân i Anna fy ngwraig a Tobias fy mab. 21Ond cyn pen deugain diwrnod llofruddiwyd y brenin gan ddau o'i feibion. Ffoesant hwy am loches i fynydd-dir Ararat, ac felly daeth ei fab Esarhadon#1:21 Groeg, Sacherdonos, Felly hefyd yn adn. 22, etc. yn frenin ar ei ôl. Penododd yntau Achicar fab Anael, mab fy mrawd, yn oruchwyliwr ar holl drysorlys ei deyrnas; yn wir, cafodd awdurdod dros y weinyddiaeth gyfan. 22Yna, wedi i Achicar eiriol ar fy rhan, dychwelais i Ninefe. Oherwydd yn ystod teyrnasiad Senacherib ar yr Asyriaid, Achicar oedd â gofal cwpan a sêl y brenin; ef hefyd oedd y prif weinidog a'r trysorydd. Ailbenodwyd ef i'r swyddi hyn gan Esarhadon. Yr oedd yn nai i mi, o'r un dras yn union â mi.

Dewis Presennol:

Tobit 1: BCNDA

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda