O gwrando, Israel, tystiaf Yn d’erbyn. Fi yw Duw. Ceryddu dy aberthau Ni fedraf yn fy myw. Ond ni chymeraf fustach Na bychod geifr o’th dŷ, A minnau’n berchen popeth Sy’n pori ar fryniau lu. Mi adwaen yr ymlusgiaid A’r adar oll i gyd. Pe clemiwn, ni chaet wybod, Cans eiddof fi’r holl fyd. Cig teirw a gwaed bychod, Nid ydynt ddim i mi. Yr hyn a fynnaf gennyt Yw dy addoliad di.
Darllen Salmau 50
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Salmau 50:7-14
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos