1
Datguddiad 13:18
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
Yma y mae angen doethineb: bydded i'r sawl sydd ganddo ddeall ystyried rhif y bwystfil, oherwydd rhif rhywun dynol ydyw; a'i rif ef yw chwe chant chwe deg a chwech.
Cymharu
Archwiliwch Datguddiad 13:18
2
Datguddiad 13:8
Bydd holl drigolion y ddaear yn ei addoli ef, pob un nad yw ei enw'n ysgrifenedig er seiliad y byd yn llyfr bywyd yr Oen a laddwyd.
Archwiliwch Datguddiad 13:8
3
Datguddiad 13:16-17
Parodd y bwystfil i bawb, yn fach a mawr, yn gyfoethog a thlawd, yn rhydd a chaeth, dderbyn nod ar eu llaw dde neu ar eu talcen, ac nid oedd neb i allu prynu neu werthu ond y sawl yr oedd ganddo'r nod, sef enw'r bwystfil neu rif ei enw.
Archwiliwch Datguddiad 13:16-17
4
Datguddiad 13:10
“Os yw rhywun i'w gaethiwo, fe'i caethiwir. Os yw rhywun i'w ladd â'r cleddyf, fe'i lleddir â'r cleddyf.” Yma y mae angen dyfalbarhad a ffydd y saint.
Archwiliwch Datguddiad 13:10
5
Datguddiad 13:1
A gwelais fwystfil yn codi o'r môr, a chanddo ddeg corn a saith ben, ac ar ei gyrn ddeg diadem, ac ar bob un o'i bennau enw cableddus.
Archwiliwch Datguddiad 13:1
6
Datguddiad 13:7
Rhoddwyd hawl iddo hefyd i ryfela yn erbyn y saint a'u gorchfygu hwy, a rhoddwyd iddo awdurdod ar bob llwyth a phobl ac iaith a chenedl.
Archwiliwch Datguddiad 13:7
7
Datguddiad 13:14-15
Twyllodd drigolion y ddaear trwy'r arwyddion y rhoddwyd iddo hawl i'w cyflawni ar ran y bwystfil, gan ddweud wrth drigolion y ddaear am wneud delw i'r bwystfil a glwyfwyd â'r cleddyf ac a ddaeth yn fyw. Rhoddwyd iddo hawl i roi anadl i ddelw'r bwystfil, er mwyn i ddelw'r bwystfil lefaru a pheri lladd pob un nad addolai ddelw'r bwystfil.
Archwiliwch Datguddiad 13:14-15
8
Datguddiad 13:2
Yr oedd y bwystfil a welais yn debyg i lewpard, ond ei draed fel traed arth a'i enau fel genau llew. A rhoddodd y ddraig iddo ei gallu a'i gorsedd ac awdurdod mawr.
Archwiliwch Datguddiad 13:2
9
Datguddiad 13:5
Rhoddwyd i'r bwystfil enau i draethu ymffrost a chabledd, a rhoddwyd iddo awdurdod i weithredu am ddeufis a deugain.
Archwiliwch Datguddiad 13:5
10
Datguddiad 13:3
Yr oedd un o'i bennau fel pe bai wedi cael ergyd farwol, ond yr oedd ei glwyf marwol wedi ei iacháu. Aeth yr holl fyd ar ôl y bwystfil yn llawn rhyfeddod
Archwiliwch Datguddiad 13:3
11
Datguddiad 13:11-12
Gwelais fwystfil arall yn codi allan o'r ddaear, ac yr oedd ganddo ddau gorn fel oen, ond yn llefaru fel draig. Yr oedd ganddo holl awdurdod y bwystfil cyntaf, i'w arfer ar ei ran. Gwnaeth i'r ddaear a'i thrigolion addoli'r bwystfil cyntaf, hwnnw yr iachawyd ei glwyf marwol.
Archwiliwch Datguddiad 13:11-12
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos