1
Philipiaid 4:6
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
Peidiwch â phryderu am ddim, ond ym mhob peth gwneler eich deisyfiadau yn hysbys i Dduw trwy weddi ac ymbil, ynghyd â diolchgarwch.
Cymharu
Archwiliwch Philipiaid 4:6
2
Philipiaid 4:7
A bydd tangnefedd Duw, sydd goruwch pob deall, yn gwarchod dros eich calonnau a'ch meddyliau yng Nghrist Iesu.
Archwiliwch Philipiaid 4:7
3
Philipiaid 4:8
Bellach, gyfeillion, beth bynnag sydd yn wir, beth bynnag sydd yn anrhydeddus, beth bynnag sydd yn gyfiawn a phur, beth bynnag sydd yn hawddgar a chanmoladwy, pob rhinwedd a phopeth yn haeddu clod, myfyriwch ar y pethau hyn.
Archwiliwch Philipiaid 4:8
4
Philipiaid 4:13
Y mae gennyf gryfder at bob gofyn trwy yr hwn sydd yn fy nerthu i.
Archwiliwch Philipiaid 4:13
5
Philipiaid 4:4
Llawenhewch yn yr Arglwydd bob amser; fe'i dywedaf eto, llawenhewch.
Archwiliwch Philipiaid 4:4
6
Philipiaid 4:19
A bydd fy Nuw i yn cyflawni eich holl angen chwi yn ôl cyfoeth ei ogoniant yng Nghrist Iesu.
Archwiliwch Philipiaid 4:19
7
Philipiaid 4:9
Y pethau yr ydych wedi eu dysgu a'u derbyn, eu clywed a'u gweled, ynof fi, gwnewch y rhain; a bydd Duw'r tangnefedd gyda chwi.
Archwiliwch Philipiaid 4:9
8
Philipiaid 4:5
Bydded eich hynawsedd yn hysbys i bob dyn. Y mae'r Arglwydd yn agos.
Archwiliwch Philipiaid 4:5
9
Philipiaid 4:12
Gwn sut i gymryd fy narostwng, a gwn hefyd sut i fod uwchben fy nigon. Ym mhob rhyw amgylchiadau, yr wyf wedi dysgu'r gyfrinach sut i ddygymod, boed â llawnder neu newyn, â helaethrwydd neu brinder.
Archwiliwch Philipiaid 4:12
10
Philipiaid 4:11
Nid fy mod yn dweud hyn am fod arnaf angen, oherwydd yr wyf fi wedi dysgu bod yn fodlon, beth bynnag fy amgylchiadau.
Archwiliwch Philipiaid 4:11
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos