1
Mathew 7:7
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
“Gofynnwch, ac fe roddir i chwi; ceisiwch, ac fe gewch; curwch, ac fe agorir i chwi.
Cymharu
Archwiliwch Mathew 7:7
2
Mathew 7:8
Oherwydd y mae pawb sy'n gofyn yn derbyn, a'r sawl sy'n ceisio yn cael, ac i'r un sy'n curo agorir y drws.
Archwiliwch Mathew 7:8
3
Mathew 7:24
“Pob un felly sy'n gwrando ar y geiriau hyn o'r eiddof ac yn eu gwneud, fe'i cyffelybir i un call, a adeiladodd ei dŷ ar y graig.
Archwiliwch Mathew 7:24
4
Mathew 7:12
Pa beth bynnag y dymunwch i eraill ei wneud i chwi, gwnewch chwithau felly iddynt hwy; hyn yw'r Gyfraith a'r proffwydi.
Archwiliwch Mathew 7:12
5
Mathew 7:14
Ond cyfyng yw'r porth a chul yw'r ffordd sy'n arwain i fywyd, ac ychydig yw'r rhai sy'n ei chael.
Archwiliwch Mathew 7:14
6
Mathew 7:13
“Ewch i mewn trwy'r porth cyfyng; oherwydd llydan yw'r porth ac eang yw'r ffordd sy'n arwain i ddistryw, a llawer yw'r rhai sy'n mynd ar hyd-ddi.
Archwiliwch Mathew 7:13
7
Mathew 7:11
Am hynny, os ydych chwi, sy'n ddrwg, yn medru rhoi rhoddion da i'ch plant, gymaint mwy y rhydd eich Tad sydd yn y nefoedd bethau da i'r rhai sy'n gofyn ganddo!
Archwiliwch Mathew 7:11
8
Mathew 7:1-2
“Peidiwch â barnu, rhag ichwi gael eich barnu; oherwydd fel y byddwch chwi'n barnu y cewch chwithau eich barnu, ac â'r mesur a rowch y rhoir i chwithau.
Archwiliwch Mathew 7:1-2
9
Mathew 7:26
A phob un sy'n gwrando ar y geiriau hyn o'r eiddof a heb eu gwneud, fe'i cyffelybir i un ffôl, a adeiladodd ei dŷ ar y tywod.
Archwiliwch Mathew 7:26
10
Mathew 7:3-4
Pam yr wyt yn edrych ar y brycheuyn sydd yn llygad dy gyfaill, a thithau heb sylwi ar y trawst sydd yn dy lygad dy hun? Neu sut y dywedi wrth dy gyfaill, ‘Gad imi dynnu allan y brycheuyn o'th lygad di’, a dyna drawst yn dy lygad dy hun?
Archwiliwch Mathew 7:3-4
11
Mathew 7:15-16
“Gochelwch rhag gau broffwydi, sy'n dod atoch yng ngwisg defaid, ond sydd o'u mewn yn fleiddiaid rheibus. Wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwy. Ai oddi ar ddrain y mae casglu grawnwin neu oddi ar ysgall ffigys?
Archwiliwch Mathew 7:15-16
12
Mathew 7:17
Felly y mae pob coeden dda yn dwyn ffrwyth da, a choeden wael yn dwyn ffrwyth drwg.
Archwiliwch Mathew 7:17
13
Mathew 7:18
Ni all coeden dda ddwyn ffrwyth drwg, na choeden wael ffrwyth da.
Archwiliwch Mathew 7:18
14
Mathew 7:19
Y mae pob coeden nad yw'n dwyn ffrwyth da yn cael ei thorri i lawr a'i bwrw i'r tân.
Archwiliwch Mathew 7:19
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos