1
Mathew 13:23
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
A'r un sy'n derbyn yr had ar dir da, dyma'r un sy'n clywed y gair ac yn ei ddeall, ac yn dwyn ffrwyth ac yn rhoi peth ganwaith cymaint, a pheth drigain, a pheth ddeg ar hugain.”
Cymharu
Archwiliwch Mathew 13:23
2
Mathew 13:22
Yr un sy'n derbyn yr had ymhlith y drain, dyma'r un sy'n clywed y gair, ond y mae gofal y byd hwn a hudoliaeth golud yn tagu'r gair, ac y mae'n mynd yn ddiffrwyth.
Archwiliwch Mathew 13:22
3
Mathew 13:19
Pan fydd unrhyw un yn clywed gair y deyrnas heb ei ddeall, daw'r Un drwg a chipio'r hyn a heuwyd yn ei galon. Dyma'r un sy'n derbyn yr had ar hyd y llwybr.
Archwiliwch Mathew 13:19
4
Mathew 13:20-21
A'r un sy'n derbyn yr had ar leoedd creigiog, dyma'r un sy'n clywed y gair ac yn ei dderbyn ar ei union yn llawen. Ond nid oes ganddo wreiddyn ynddo'i hunan, a thros dro y mae'n para; pan ddaw gorthrymder neu erlid o achos y gair, fe gwymp ar unwaith.
Archwiliwch Mathew 13:20-21
5
Mathew 13:44
“Y mae teyrnas nefoedd yn debyg i drysor wedi ei guddio mewn maes; pan ddaeth rhywun o hyd iddo, fe'i cuddiodd, ac yn ei lawenydd y mae'n mynd ac yn gwerthu'r cwbl sydd ganddo, ac yn prynu'r maes hwnnw.
Archwiliwch Mathew 13:44
6
Mathew 13:8
A syrthiodd eraill ar dir da a ffrwytho, peth ganwaith cymaint, a pheth drigain, a pheth ddeg ar hugain.
Archwiliwch Mathew 13:8
7
Mathew 13:30
Gadewch i'r ddau dyfu gyda'i gilydd hyd y cynhaeaf, ac yn amser y cynhaeaf dywedaf wrth y medelwyr, “Casglwch yr efrau yn gyntaf, a rhwymwch hwy'n sypynnau i'w llosgi, ond crynhowch yr ŷd i'm hysgubor.” ’ ”
Archwiliwch Mathew 13:30
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos