1
Lefiticus 26:12
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
Byddaf yn rhodio yn eich mysg; byddaf yn Dduw i chwi a chwithau'n bobl i minnau.
Cymharu
Archwiliwch Lefiticus 26:12
2
Lefiticus 26:4
rhoddaf ichwi'r glaw yn ei dymor, a rhydd y tir ei gnwd a choed y maes eu ffrwyth.
Archwiliwch Lefiticus 26:4
3
Lefiticus 26:3
“ ‘Os byddwch yn dilyn fy neddfau ac yn gofalu cadw fy ngorchmynion
Archwiliwch Lefiticus 26:3
4
Lefiticus 26:6
Rhoddaf heddwch yn y wlad, a chewch orwedd i lawr heb neb i'ch dychryn; symudaf y bwystfilod peryglus o'r wlad, ac ni ddaw'r cleddyf trwy eich tir.
Archwiliwch Lefiticus 26:6
5
Lefiticus 26:9
Byddaf yn edrych yn ffafriol arnoch, yn eich gwneud yn ffrwythlon ac yn eich cynyddu, a byddaf yn cadw fy nghyfamod â chwi.
Archwiliwch Lefiticus 26:9
6
Lefiticus 26:13
Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw, a ddaeth â chwi allan o wlad yr Aifft rhag ichwi fod yn weision yno; torrais farrau eich iau a gwneud ichwi gerdded yn sythion.
Archwiliwch Lefiticus 26:13
7
Lefiticus 26:11
Byddaf yn gosod fy nhabernacl yn eich mysg, ac ni fyddaf yn eich ffieiddio.
Archwiliwch Lefiticus 26:11
8
Lefiticus 26:1
“ ‘Peidiwch â gwneud ichwi eilunod, na chodi ichwi eich hunain ddelw na cholofn; na fydded o fewn eich tir faen cerfiedig i blygu iddo; oherwydd myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.
Archwiliwch Lefiticus 26:1
9
Lefiticus 26:10
Byddwch yn dal i fwyta'r hen gnwd, ac yn gorfod bwrw allan yr hen i wneud lle i'r newydd.
Archwiliwch Lefiticus 26:10
10
Lefiticus 26:8
Bydd pump ohonoch yn ymlid cant a chant ohonoch yn ymlid deng mil, a bydd eich gelynion yn syrthio o'ch blaen trwy'r cleddyf.
Archwiliwch Lefiticus 26:8
11
Lefiticus 26:5
Bydd dyrnu'n ymestyn hyd amser y cynhaeaf grawnwin, a'r cynhaeaf grawnwin hyd amser plannu, a byddwch yn bwyta i'ch digoni ac yn byw'n ddiogel yn eich gwlad.
Archwiliwch Lefiticus 26:5
12
Lefiticus 26:7
Byddwch yn ymlid eich gelynion, a byddant yn syrthio o'ch blaen trwy'r cleddyf.
Archwiliwch Lefiticus 26:7
13
Lefiticus 26:2
Cadwch fy Sabothau a pharchwch fy nghysegr; myfi yw'r ARGLWYDD.
Archwiliwch Lefiticus 26:2
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos