1
Barnwyr 16:20
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
Dywedodd, “Y mae'r Philistiaid ar dy warthaf, Samson!” Deffrôdd ef o'i gwsg gan feddwl, “Af allan fel o'r blaen ac ymryddhau.” Ni wyddai fod yr ARGLWYDD wedi cefnu arno.
Cymharu
Archwiliwch Barnwyr 16:20
2
Barnwyr 16:28
Yna galwodd Samson ar yr ARGLWYDD a dweud, “O Arglwydd DDUW, cofia fi, a nertha fi'r tro hwn yn unig, O Dduw, er mwyn imi gael dial unwaith am byth ar y Philistiaid am fy nau lygad.”
Archwiliwch Barnwyr 16:28
3
Barnwyr 16:17
fe ddywedodd ei gyfrinach yn llawn wrthi. Dywedodd, “Nid yw ellyn erioed wedi cyffwrdd â'm pen, oherwydd bûm yn Nasaread i Dduw o groth fy mam. Petaent yn fy eillio, yna byddai fy nerth yn pallu ac mi awn cyn wanned â dyn cyffredin.”
Archwiliwch Barnwyr 16:17
4
Barnwyr 16:16
Ac oherwydd ei bod yn ei flino â'i geiriau, ddydd ar ôl dydd, ac yn dal i'w boeni nes ei fod wedi ymlâdd
Archwiliwch Barnwyr 16:16
5
Barnwyr 16:30
Yna dywedodd, “Bydded i minnau farw gyda'r Philistiaid!” Gwthiodd yn nerthol, a chwympodd y deml ar yr arglwyddi a'r holl bobl oedd ynddi, ac felly lladdodd Samson fwy wrth farw nag a laddodd yn ystod ei fywyd.
Archwiliwch Barnwyr 16:30
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos