1
Eseia 60:1
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
“Cod, llewyrcha, oherwydd daeth dy oleuni; llewyrchodd gogoniant yr ARGLWYDD arnat.
Cymharu
Archwiliwch Eseia 60:1
2
Eseia 60:3
Fe ddaw'r cenhedloedd at dy oleuni, a brenhinoedd at ddisgleirdeb dy wawr.
Archwiliwch Eseia 60:3
3
Eseia 60:2
Er bod tywyllwch yn gorchuddio'r ddaear, a'r fagddu dros y bobloedd, bydd yr ARGLWYDD yn llewyrchu arnat ti, a gwelir ei ogoniant arnat.
Archwiliwch Eseia 60:2
4
Eseia 60:22
Daw'r lleiaf yn llwyth, a'r ychydig yn genedl gref. Myfi yw'r ARGLWYDD; brysiaf i wneud hyn yn ei amser.”
Archwiliwch Eseia 60:22
5
Eseia 60:19
“Nid yr haul fydd mwyach yn goleuo i ti yn y dydd, ac nid y lleuad fydd yn llewyrchu i ti yn y nos; ond yr ARGLWYDD fydd yn oleuni di-baid i ti, a'th Dduw fydd yn ddisgleirdeb i ti.
Archwiliwch Eseia 60:19
6
Eseia 60:20
Ni fachluda dy haul mwyach, ac ni phalla dy leuad; oherwydd yr ARGLWYDD fydd yn oleuni di-baid i ti, a daw diwedd ar ddyddiau dy alar.
Archwiliwch Eseia 60:20
7
Eseia 60:5
pan weli, bydd dy wyneb yn gloywi, bydd dy galon yn llawn cyffro a llawenydd; troir atat gyflawnder y môr, a daw golud y cenhedloedd yn eiddo iti.
Archwiliwch Eseia 60:5
8
Eseia 60:4
“Cod dy lygaid ac edrych o'th gwmpas; y maent i gyd yn ymgasglu i ddod atat, yn dwyn dy feibion a'th ferched o bell, ac yn eu cludo ar eu hystlys
Archwiliwch Eseia 60:4
9
Eseia 60:21
Bydd dy bobl i gyd yn gyfiawn, yn gwreiddio yn y tir am byth, yn flaguryn a blennais— fy ngwaith fy hun i'm gogoneddu.
Archwiliwch Eseia 60:21
10
Eseia 60:18
Ni chlywir mwyach am drais yn dy wlad, nac am ddistryw na dinistr o fewn dy derfynau, ond gelwi dy fagwyrydd yn Iachawdwriaeth, a'th byrth yn Foliant.
Archwiliwch Eseia 60:18
11
Eseia 60:11
Bydd dy byrth yn agored bob amser, heb eu cau ddydd na nos, er mwyn dwyn golud y cenhedloedd atat, gyda'u brenhinoedd yn osgordd.
Archwiliwch Eseia 60:11
12
Eseia 60:6
Bydd gyrroedd o gamelod yn dy orchuddio, daw camelod masnach o Midian, Effa a Sheba; byddant i gyd yn cludo aur a thus, ac yn mynegi moliant yr ARGLWYDD.
Archwiliwch Eseia 60:6
13
Eseia 60:10
“Dieithriaid fydd yn codi dy furiau, a'u brenhinoedd yn dy wasanaethu, oherwydd, er i mi yn fy nig dy daro, penderfynais dosturio wrthyt.
Archwiliwch Eseia 60:10
14
Eseia 60:15
“Yn lle dy fod yn wrthodedig ac yn atgas, heb neb yn tramwyo trwot, fe'th wnaf yn ogoniant tragwyddol, ac yn llawenydd o oes i oes.
Archwiliwch Eseia 60:15
15
Eseia 60:16
Cei sugno llaeth cenhedloedd, a'th fagu ar fronnau brenhinoedd, a chei wybod mai myfi, yr ARGLWYDD, yw dy achubydd, ac mai Duw cadarn Jacob yw dy Waredydd.
Archwiliwch Eseia 60:16
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos