1
Eseciel 37:4-5
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
Dywedodd wrthyf, “Proffwyda wrth yr esgyrn hyn a dywed wrthynt, ‘Esgyrn sychion, clywch air yr ARGLWYDD. Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW wrth yr esgyrn hyn: Wele, fe roddaf fi anadl ynoch, a byddwch fyw.
Cymharu
Archwiliwch Eseciel 37:4-5
2
Eseciel 37:6
Rhoddaf ewynnau arnoch, paraf i gnawd ddod arnoch a rhoddaf groen drosoch; rhoddaf anadl ynoch, a byddwch fyw. Yna byddwch yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.’ ”
Archwiliwch Eseciel 37:6
3
Eseciel 37:3
Gofynnodd imi, “Fab dyn, a all yr esgyrn hyn fyw?” Atebais innau, “O Arglwydd DDUW, ti sy'n gwybod.”
Archwiliwch Eseciel 37:3
4
Eseciel 37:1-2
Daeth llaw yr ARGLWYDD arnaf, ac aeth â mi allan trwy ysbryd yr ARGLWYDD a'm gosod yng nghanol dyffryn a oedd yn llawn esgyrn. Aeth â mi'n ôl a blaen o'u hamgylch, a gwelais lawer iawn o esgyrn ar lawr y dyffryn, ac yr oeddent yn sychion iawn.
Archwiliwch Eseciel 37:1-2
5
Eseciel 37:7-8
Proffwydais fel y gorchmynnwyd imi. Ac fel yr oeddwn yn proffwydo daeth sŵn, a hefyd gynnwrf, a daeth yr esgyrn ynghyd, asgwrn at asgwrn. Edrychais, ac yr oedd gewynnau arnynt, a chnawd hefyd, ac yr oedd croen drostynt, ond nid oedd anadl ynddynt.
Archwiliwch Eseciel 37:7-8
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos