1
Eseciel 34:16
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
Byddaf yn ceisio'r ddafad golledig ac yn dychwelyd y wasgaredig; byddaf yn rhwymo'r ddolurus ac yn cryfhau'r wan. Ond byddaf yn difa'r fras a'r gref; byddaf yn eu bugeilio â chyfiawnder.
Cymharu
Archwiliwch Eseciel 34:16
2
Eseciel 34:12
Fel y mae bugail yn gofalu am ei braidd gwasgaredig pan fydd yn eu mysg, felly y byddaf finnau'n gofalu am fy mhraidd; byddaf yn eu gwaredu o'r holl fannau lle gwasgarwyd hwy ar ddydd cymylau a thywyllwch.
Archwiliwch Eseciel 34:12
3
Eseciel 34:11
“ ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Byddaf fi fy hunan yn chwilio am fy mhraidd ac yn gofalu amdanynt.
Archwiliwch Eseciel 34:11
4
Eseciel 34:15
Byddaf fi fy hun yn bugeilio fy nefaid ac yn gwneud iddynt orwedd, medd yr Arglwydd DDUW.
Archwiliwch Eseciel 34:15
5
Eseciel 34:31
Chwi fy mhraidd, praidd fy mhorfa, yw fy mhobl, a myfi yw eich Duw, medd yr Arglwydd DDUW.’ ”
Archwiliwch Eseciel 34:31
6
Eseciel 34:2
“Fab dyn, proffwyda yn erbyn bugeiliaid Israel; proffwyda, a dywed wrthynt, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Gwae fugeiliaid Israel, nad ydynt yn gofalu ond amdanynt eu hunain! Oni ddylai'r bugeiliaid ofalu am y praidd?
Archwiliwch Eseciel 34:2
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos