1
2 Timotheus 1:7
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
Oherwydd nid ysbryd sy'n peri llwfrdra a roddodd Duw i ni, ond ysbryd sy'n peri nerth a chariad a hunanddisgyblaeth.
Cymharu
Archwiliwch 2 Timotheus 1:7
2
2 Timotheus 1:9
Ef a'n hachubodd ni, a'n galw â galwedigaeth sanctaidd, nid ar sail ein gweithredoedd ond yn unol â'i arfaeth ei hun a'i ras, y gras a roddwyd inni yng Nghrist Iesu cyn dechrau'r oesoedd
Archwiliwch 2 Timotheus 1:9
3
2 Timotheus 1:6
O ganlyniad, yr wyf yn dy atgoffa i gadw ynghynn y ddawn a roddodd Duw iti, y ddawn sydd ynot trwy arddodiad fy nwylo i.
Archwiliwch 2 Timotheus 1:6
4
2 Timotheus 1:8
Felly, na foed cywilydd arnat roi tystiolaeth am ein Harglwydd, na chywilydd ohonof fi, ei garcharor ef; ond cymer dy gyfran o ddioddefaint dros yr Efengyl, trwy'r nerth yr ydym yn ei gael gan Dduw.
Archwiliwch 2 Timotheus 1:8
5
2 Timotheus 1:12
Dyma'r rheswm, yn wir, fy mod yn dioddef yn awr. Ond nid oes arnaf gywilydd o'r peth, oherwydd mi wn pwy yr wyf wedi ymddiried ynddo, ac rwy'n gwbl sicr fod ganddo ef allu i gadw'n ddiogel hyd y Dydd hwnnw yr hyn a ymddiriedodd i'm gofal.
Archwiliwch 2 Timotheus 1:12
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos