1
2 Brenhinoedd 20:5
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
“Dos yn ôl, a dywed wrth Heseceia, tywysog fy mhobl, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw dy dad Dafydd: Clywais dy weddi a gwelais dy ddagrau; wele, yr wyf am dy iacháu. Ymhen tridiau byddi'n mynd i fyny i'r deml.
Cymharu
Archwiliwch 2 Brenhinoedd 20:5
2
2 Brenhinoedd 20:3
“O ARGLWYDD, cofia fel yr oeddwn yn rhodio ger dy fron di mewn cywirdeb ac â chalon berffaith, ac yn gwneud yr hyn oedd dda yn dy olwg.” Yna beichiodd wylo.
Archwiliwch 2 Brenhinoedd 20:3
3
2 Brenhinoedd 20:1
Yn y dyddiau hynny aeth Heseceia'n glaf hyd farw, a daeth y proffwyd Eseia fab Amos ato a dweud, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Trefna dy dŷ, oherwydd yr wyt ar fin marw; ni fyddi fyw.’ ”
Archwiliwch 2 Brenhinoedd 20:1
4
2 Brenhinoedd 20:6
Ychwanegaf bymtheng mlynedd at dy oes, a gwaredaf di a'r ddinas hon o afael brenin Asyria, a byddaf yn gysgod dros y ddinas hon er fy mwyn fy hun ac er mwyn fy ngwas Dafydd.’ ”
Archwiliwch 2 Brenhinoedd 20:6
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos