1
2 Cronicl 20:15
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
a dywedodd, “Gwrandewch, holl Jwda a thrigolion Jerwsalem ynghyd â'r brenin Jehosaffat. Y mae'r ARGLWYDD yn dweud wrthych am beidio ag ofni na digalonni o achos y fintai fawr yma, oherwydd brwydr Duw yw hon, nid eich brwydr chwi.
Cymharu
Archwiliwch 2 Cronicl 20:15
2
2 Cronicl 20:17
Ni fydd raid i chwi ymladd yn y frwydr hon; safwch yn llonydd yn eich lle, ac fe welwch y fuddugoliaeth a rydd yr ARGLWYDD ichwi, O Jwda a Jerwsalem. Peidiwch ag ofni na digalonni; ewch allan yn eu herbyn yfory, a bydd yr ARGLWYDD gyda chwi.”
Archwiliwch 2 Cronicl 20:17
3
2 Cronicl 20:12
O ein Duw, oni wnei di gyhoeddi barn arnynt? Oherwydd nid ydym ni'n ddigon cryf i wrthsefyll y fintai fawr hon sy'n dod yn ein herbyn. Ni wyddom ni beth i'w wneud, ond dibynnwn arnat ti.”
Archwiliwch 2 Cronicl 20:12
4
2 Cronicl 20:21
Wedi ymgynghori â'r bobl, penododd gantorion i foli'r ARGLWYDD, ac i ganu mawl i brydferthwch ei sancteiddrwydd, wrth fynd allan ar flaen y fyddin. Dywedasant, “Diolchwch i'r ARGLWYDD, oherwydd y mae ei gariad hyd byth.”
Archwiliwch 2 Cronicl 20:21
5
2 Cronicl 20:22
Fel yr oeddent yn dechrau canu a moli, gosododd yr ARGLWYDD gynllwyn yn erbyn yr Ammoniaid a'r Moabiaid a gwŷr Mynydd Seir, a oedd yn ymosod ar Jwda, a chawsant eu gorchfygu.
Archwiliwch 2 Cronicl 20:22
6
2 Cronicl 20:3
Yn ei ddychryn penderfynodd Jehosaffat geisio'r ARGLWYDD, a chyhoeddodd ympryd trwy holl Jwda.
Archwiliwch 2 Cronicl 20:3
7
2 Cronicl 20:9
‘Os daw unrhyw niwed i ni trwy gleddyf, llifeiriant, haint neu newyn, yna fe safwn o'th flaen di ac o flaen y tŷ hwn, oherwydd y mae dy enw arno. Gwaeddwn arnat yn ein trybini, ac fe wrandewi di arnom a'n gwaredu.’
Archwiliwch 2 Cronicl 20:9
8
2 Cronicl 20:16
Ewch i lawr yn eu herbyn yfory, pan fyddant yn dringo rhiw Sis, ac fe'u cewch ym mhen draw'r dyffryn, yn ymyl anialwch Jerual.
Archwiliwch 2 Cronicl 20:16
9
2 Cronicl 20:4
Yna ymgasglodd pobl Jwda i ofyn am gymorth gan yr ARGLWYDD; daethant o bob un o'u dinasoedd i'w geisio ef.
Archwiliwch 2 Cronicl 20:4
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos