1
1 Corinthiaid 13:4-5
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
Y mae cariad yn amyneddgar; y mae cariad yn gymwynasgar; nid yw cariad yn cenfigennu, nid yw'n ymffrostio, nid yw'n ymchwyddo. Nid yw'n gwneud dim sy'n anweddus, nid yw'n ceisio ei ddibenion ei hun, nid yw'n gwylltio, nid yw'n cadw cyfrif o gam
Cymharu
Archwiliwch 1 Corinthiaid 13:4-5
2
1 Corinthiaid 13:7
Y mae'n goddef i'r eithaf, yn credu i'r eithaf, yn gobeithio i'r eithaf, yn dal ati i'r eithaf.
Archwiliwch 1 Corinthiaid 13:7
3
1 Corinthiaid 13:6
nid yw'n cael llawenydd mewn anghyfiawnder, ond y mae'n cydlawenhau â'r gwirionedd.
Archwiliwch 1 Corinthiaid 13:6
4
1 Corinthiaid 13:13
Mewn gair, y mae ffydd, gobaith, cariad, y tri hyn, yn aros. A'r mwyaf o'r rhain yw cariad.
Archwiliwch 1 Corinthiaid 13:13
5
1 Corinthiaid 13:8
Nid yw cariad yn darfod byth. Ond proffwydoliaethau, fe'u diddymir hwy; a thafodau, bydd taw arnynt hwy; a gwybodaeth, fe'i diddymir hithau.
Archwiliwch 1 Corinthiaid 13:8
6
1 Corinthiaid 13:1
Os llefaraf â thafodau meidrolion ac angylion, a heb fod gennyf gariad, efydd swnllyd ydwyf, neu symbal aflafar.
Archwiliwch 1 Corinthiaid 13:1
7
1 Corinthiaid 13:2
Ac os oes gennyf ddawn proffwydo, ac os wyf yn gwybod y dirgelion i gyd, a phob gwybodaeth, ac os oes gennyf gymaint o ffydd nes gallu symud mynyddoedd, a heb fod gennyf gariad, nid wyf ddim.
Archwiliwch 1 Corinthiaid 13:2
8
1 Corinthiaid 13:3
Ac os rhof fy holl feddiannau i borthi eraill, ac os rhof fy nghorff yn aberth, a hynny er mwyn ymffrostio, a heb fod gennyf gariad, ni wna hyn ddim lles imi.
Archwiliwch 1 Corinthiaid 13:3
9
1 Corinthiaid 13:11
Pan oeddwn yn blentyn, fel plentyn yr oeddwn yn llefaru, fel plentyn yr oeddwn yn meddwl, fel plentyn yr oeddwn yn rhesymu. Ond wedi dod yn ddyn, yr wyf wedi rhoi heibio bethau'r plentyn.
Archwiliwch 1 Corinthiaid 13:11
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos