Pan ddethon‐nhwy at i disgiblion erill gwelon‐nhwy growd mowr rown 'ddon nhwy, a we'r rhei we'n disgu'r Gifreth in pledo 'da nhwy. Sinodd i crowd i gyd wrth weld Iesu, a rhedon‐nhwy ato i gifarch e. Gofinodd‐e iddon nhwy, “Obitu beth ŷch‐chi'n pledo 'da nhwy?” Atebodd un o'r crowd, “Mishtir, dwi wedi dwâd a'ng grwt ato ti; ma isbryd indo fe sy'n stopo fe sharad. Ma'r isbryd in i dowlu fe i'r llawr pam mae‐e'n gafel indo fe, mae'i ben e'n ffrothan, mae e'n crenshan i ddane a mynd in stiff i gyd. Gofines‐i i di ddisgiblion di i hala'r isbryd mas, on wên‐nhwy'n ffeilu deg â neud 'ny.” Atebodd‐e nhwy, “O ŷch‐chi'n genhedleth sy ddim in credu! Faint mor hir fidda‐i 'da chi? Faint mor hir bydd aminedd 'da fi i chi? Dewch â'r crwt ata i.” Dethon‐nhwy ag e ato fe. A pan welodd ir isbryd Iesu, tima fe'n i shiglo'r crwt i gyd nes bo fe'n cwmpo ar i llawr, rhowlo obitu, a ffroth in i ben e i gyd. Gofinodd Iesu i dad i crwt, “Am faint mor hir ma hyn wedi bod in digwydd iddo fe?” Gwedodd‐e, “Ddar i fod e'n grwt bach, a ma'r isbryd wedi treial i ladd e sawl gwaith wrth i dowlu fe i'r tân neu i'r dŵr. Ond os wit ti'n galler neud unriwbeth, bydd â drenu droston ni a helpa ni.” Gwedo Iesu wrtho fe, “‘Os wit‐ti'n galler’! Ma rhiwun sy'n credu in galler neud popeth.” Wedyn fe weiddodd i dad e mas, “Dwi in credu. Os nadi'n ffydd i'n ddigon cryf, helpa fi gredu.” Pan welo Iesu bo crowd in rhedeg ato fe, sharadodd‐e'n blaen 'da'r isbryd drwg, a gweu‐'tho fe, “Ti isbryd sy'n stopo'r crwt ma i sharad a cliwed, dwi'n ordro ti, dere mas ono fe a paid mind miwn iddo fe byth 'to.” Gweiddodd ir isbryd mas in uchel, shiglo'r crwt i gyd a dwâd mas ono fe. Âth i crwt fel rhiwun we wedi marw, fel bo rhan fwya o'r crowd in gweud i fod e wedi marw in iawn. Ond cijodd Iesu in i law e a'i godi e; a safodd‐e lan. Pan ddâth Iesu getre gofinodd i ddisgiblion iddo fe pan wên‐nhwy ar benne u hunen, “Pam wenon‐ni'n galler hala'r isbryd 'na mas?” Gwedodd Iesu wrthon nhwy, “Gall i short na o isbryd ddim dwâd mas wrth neud ddim byd, on 'da gweddi.”