Dâth un o'r rhei we'n disgu'r Gifreth a we wedi'u cliwed nhwy'n pledo at Iesu. Gwelodd‐e bo Iesu wedi'u hateb nhwy'n dda a gofinodd‐e iddo, “P'un yw'r gorchimin cinta'n deg?” Atebo Iesu, “Co'r gorchimyn cinta'n deg, ‘Gronda, O Isrel, ma'r Arglwi in Duw ni in un Arglwi, a rhaid i ti garu'r Arglwi di Dduw di 'da di galon i gyd, 'da di ened i gyd, 'da di feddwl i gyd, a 'da di nerth i gyd.’ Co'r ail un wedyn, ‘Rhaid i ti garu di gwmodog fel ti d'unan.’ Sdim gorchimyn arall i gâl sy'n fwy na rhei'na.” Gwedo'r un we'n disgu'r Gifreth wrtho fe, “Ti'n gweud hi'n iawn, Mishtir! Gwedes‐di'r gwir i fod e in un a bo neb arall ond fe i gâl, a bod i fod i garu fe 'da'r galon i gyd, 'da'r diall i gyd a 'da'r nerth i gyd, a bo caru cwmodog fel dyn i unan, in fwy na popeth sy'n câl u hoffrimu a'u llosgi i Dduw.” Gwelo Iesu i fod e wedi ateb 'da sens a gwedodd‐e, “Senot‐ti'n bell bant o Deyrnas Duw.” Mentrodd neb arall ofyn rhagor o gweshjwne iddo fe.