Obitu'r amser 'ma, pan we shwt filôdd o bobl wedi dod at i gily a'n damshel ar ben i gily, sharadodd e gida'i ddisgiblion a gweud, “Watshwch‑chi am ferem i Ffariseied, sy'n ragrith. Sdim byd wedi câl i gyfro na fydd in câl i ddangos, sdim byd wedi'i gwato na fydd in câl i wbod; achos bydd beth ŷch‑chi wedi'i weud in i tewillwch in câl i gliwed in i gole, a bydd beth sy wedi câl i sibrwd tu fiwn in gâl i weiddi o dope'r tai. “Dw‑i'n gweu‑’tho chi sy'n ffrindie i fi, peidwch câl ofon i rhei sy'n lladd i corff a wedyn sdim byd mwy gallan‑nhwy neud. Dangosa‑i chi pwy ddilech‑chi gâl ofon: ofnwch Dduw, sy, ar ôl ichi farw, â'r nerth i’ch towlu chi i miwn i uffern. Ie'n wir, dw‑i'n gweu’tho chi, ofnwch e. Senyn‑nhwy'n gwerthu pump aderyn to am nesa peth i ddim? Ond wedyn werth in presenoldeb Du sdim un aderyn to in câl i anghofio. Ma hyd‑'nôd gwallt ich pen chi wedi câl u cownto. Peidwch câl ofon; ŷch‑chi werth lot mwy na aderyn to.
“Dw‑i'n gweu‑’thoch chi, bydd bob un sy'n folon in gidnabod i o flân dinion bydd Crwt i Dyn in u cidnabod nhwy o flân angilion Duw. Bydd unrhyw un sy'n gweud bo nhwy ddim in in nabod i o flân dinion wedyn bidda nhwy ddim in câl u cidnbod o flân angilion Duw. Geith bob un sy'n gweud gair in erbyn Crwt i Dyn u madde, ond cheith neb sy'n cablu'r Isbryd Glân u madde. Pan ddewn‑nhwy â chi o flân i sinagog a o flân rheowyr a o flân awdurdoded, peidwch becson shwt neu beth ŷch‑chi'n mynd i ateb i amddiffyn ich hunen, neu beth ŷch‑chi'n mynd i weud, achos bydd ir Isbryd Glân in ich disgu chi beth sy raid ichi weud.”
Gwedodd dyn o'r crowd wrtho, “Mishtir, gwed wrth in frawd i i rannu'r etifeddieth gida fi.” Gwedodd‑e wrtho, “In ffrind i, pwy nâth in neud i i lordo hi drostoch chi i farnu a rhannu?” Gwedodd‑e wrthyn nhwy, “Watshwch mas, biddwch in ofalus, achos seno pia lot o beth in neud bowid dyn.” Gwedodd‑e ddameg wrthyn nhwy, “We dyn cifoethog i gâl a we'i dir e'n dir da in rhoi crope sbechal. Wedd‑e'n hooi i unan, ‘Beth 'na‑i? Sdim digon o le 'da fi roi in geneia.’ Gwedodd‑e, ‘Co beth 'na‑i: tinna‑i'n sguborie lawr a codi rhei mwy o seiz, a na lle 'na‑i gadw in llafur a'n bethe i gyd; a weda‑i wrth in unan, ‘Ma digon o beth 'da ti in i storws i gadw ti am flinidde. Cwmer hwe, bita, hifa, a enjoia di unan.’ Ond gwedo Duw wrtho fe, “Twpsyn, heno ceith di fowid di i ofyn amdano. Pwy fydd in câl i pethe wit‑ti wedi wedi paratoi?’ Co beth sy'n digwydd i ddyn sy'n storo pethe lan ar gownt i unan ond sy â dim 'dag e pan mae'n dod at Dduw.”
Gwedodd‑e wrth i disgiblion, “Co pam dw‑i'n gweu‑'tho chi i beido becso am bethe fel bwyd i gadw chi'n fyw neu ddilad ichi wishog. Ma mwy i fowid na bwyd, a ma mwy i'r corff na dillad. Meddilwch am i brain: senyn nhwy in hou na'n cwên; sdim storws na sgubo 'da nhwy; ond ma Duw in u bwydo nhwy. Ŷch‑chi werth lot mwy na'r adar! Pwy onoch chi gall neud i unan fyw in hirach wrth fecso? Os nad ŷch‑chi'n galler neud i peth lleia, pam ŷch‑chi'n becso shwt gwmint am i pethe erill? Meddilwch shwt ma'r blodyn lili in iddu: senyn‑nhwy'n gweitho, senyn‑nhwy'n niddu, ond dw‑i'n gweu‑'thoch chi weno Solomon in i ogoniant i gyd wedi'i wishgo fel un o rhein. Os yw Duw in rhoi dillad fel hyn i blans, sy'n tiddu in perci un dwarnod a'n câl u towlu in i tân i dwarnod wedyn, faint mwy neith‑e roi dillad i chi, chi rei â dim ond tamed o ffydd 'da chi! Peidwch meddwl trw'r amser am beth ŷch‑chi'n mynd i fita neu beth ŷch‑chi'n mynd i hifed; rhaid ichi beido becso. Co beth mae'r rhei sy ddim in credu in becso amdano trw'r amser; ond chi, dilech‑chi wbod bo’ch Tad in gwbod bod ishe'r pethe ma arnoch chi. Chwiliwch chi am i Deyrnas e in lle cinta, a geith i pethe erill 'ma u rhoi ichi. Peidwch câl ofon, braidd bach; ma'r Tad wrth i fodd in rhoi'r Deyrnas i chi.
“Gwerthwch beth sy 'da chi a rhoi elusen. Newch in shŵr bod 'da chi bwtsh arian sy ddin in troulo, a trisor na alla neb i gownto fe in i nefôdd, lle gall neb i ddwyn e a gall dim moth i ddistrywo fe. Achos lle ma’ch trisor chi, fan 'ny ‘fyd ma’ch calon chi.
“Biddwch in barod, i’ch belt in dyn a’ch lampe in gynn; a biddwch fel dinion sy'n disghwyl u mishtir nôl o'r parti prioodas, fel pna bo fe'n dod a'n cnoco ar i drws gallan‑nhwy agor iddo fe streit. Na hapus fidd i gweishon hyn fydd in câl u dala'n cadw lligad mas pan ddeith i mishtir. Dw‑i'n gweud i gwir wrthoch chi, bydd‑e'n clwmu'i felt in dyn, in neud iddyn nhwy ishte wrth i ford, a'n dod a'u serfo nhwy. Os eith‑e, in hwyr i nos neu'n ginnar in i bore, a ffindio nhwy ar ddihun, biddan‑nhwy in hapus. Ŷch‑chi'n gwbod in iawn os bise'r dyn we'n pia'r tŷ in gwbod pryd we'r lleidir in dod, bise‑fe ddim wedi gadel i'r tŷ gâl i dorri miwn iddo in i lle cinta. Rhaid ichi ‘fyd fod in barod, achos bydd Crwt i Dyn in dod pan nad ŷch‑chi'n i ddishgwyl e.”
Gwedo Pedr, “Arglwidd, a wrthon ni wit‑ti'n gweud i ddameg 'ma neu wrth bob un?” Gwedo'r Aarglwidd, “Gwed‑ti wrtha i, pwy yw'r manajer call alli‑di drysto, dyn fydde'i fishtir ishe rhoi dros i weishon, i roi bwyd idyn nhw ar ir amser iawn? Bydd i ceithwas hwnnw in hapus os ceith i fishtir e'n gweitho pan ddeith e gatre. Dw‑i'n gweud i gwir wrthoch chi nawr, ceith‑e i roi i redeg i holl eiddo fe. Ond os dwedith i caethwas 'na wrth i unan, ‘Ma'r mishtir in cwmrid i amser in dod’, a'n dachre bwrw'r gweishon a'r morynion, byta a hifed a meddwi, bydd mishtir i caethwas hwnnw in dod ar ddwarnod seno‑fe in i ddisgwyl e, a ar amser seno'n gwbod, a bydd‑e'n u dorri e'n ddoi a neud iddo rannu in ffwd ir anffyddlon.
“Bydd ceithwas we'n gwbod beth we'i fishtir e moyn on nâth e ddim trefnu na neud fel 'ny in câl i fwrw sawl gwaith; ond bydd ynte, a hinny heb wbod beth we'i fishtir moyn, in neud beth we'n heiddu crasfa, in cael i fwrw ond llai o weithe. Wrth i rhei sy wedi câl lot fowr, bydd dishgwyl lot fowr; wrth un sy wedi cael addewid am lot, bydd lot in fwy in câl i ofyn nôl.
“Des‑i i ddwâd â tân i'r ddeiar, a trenu nag yw‑e wedi'i ginnu'n barod! Ma 'da fi fedydd ma'n rhaid ifi gâl in fediddio ag e, a 'na ofid sy arna i nes getih i peth i neud! Ŷch‑chi'n credu bo fi wedi dwâd i ddwâd â heddwch ar i ddeiar? Nadw, dw‑i'n gweu‑'thoch chi, ond in hitrach dwâd â rhanniade dw‑i 'di neud! Achos o nawr mlân bydd teulu o bump wedi'i rannu, tri in erbyn dou, dou in erbyn tri; tad in erbyn crwt, a crwt in erbyn tad; mam in erbyn rhoces, a rhoces in erbyn mam; mam-in-gifreth in erbyn rhoces-in-gifreth, a rhoces-in-gifreth in erbyn i mam-in-gifreth.”
A wrth i crowde wedodd‑e, “Pan welwch chi gwmwl in dod o'r gorllewin, ŷch‑chi'n gweud ar unweth, ‘Mae'n dod i'r glaw’, a 'na beth sy'n digwydd. A pan ŷch‑chi'n gweld i gwynt in hwthu o'r de, ŷch‑chi'n gweud, ‘Bydd‑i'n dwym’, a mae‑i. Rhagrithwyr ŷch‑chi, ŷch‑chi'n gwbod shwt ma darllen ir arwyddion in i ddeiar a'r awyr; shwt wedyn 'te senoch chi'n gwbod shwt ma darllen arwyddion i'r amser 'ma?
“Pam senoch‑chi'n deseido drostoch chi’ch hunen beth sy'n iawn? Pan ŷch‑chi in mynd 'da di elyn at ir majistrêt, treia ddod i ddielltwriaeth 'dag e ar i ffordd. Os na nei‑di falle eith‑e â ti o flan i barnwr a rhoith i barnw ti in llaw'r swyddog a neith i swyddog di dowlu di i'r carchar. Dw‑i'n gweu‑’tho ti, dei di ddim mas o fan 'ny nes bo ti wedi talu di geinog ddwetha.”