Wedi hyn dewishodd ir Arglwidd saith-deg-dou o ddinion erill a hala nhwy o'i flân e, in bobo ddou, i bob tre lle wedd‑e i unan in golgu mynd. Gwedodd‑e wrthyn nhwy. “Ma'r cineia in fowr, ond sdim lot i weithio arno. So gweddïwch i Arglwidd i cineia i halla rhei i weithio ar i gineia. Cerwch; dw‑i in ich hala chi mas fel ŵyn i ganol bleidded. Peidwch mynd â pwtsh arian, na sach i fegian na sandals 'da chi; a peidwch sharad 'da neb ar ir hewl. Pan fiddwch‑chi'n mynd miwn i dŷ, sdim ots pwy dŷ, gwedwch ginta'n deg, 'Heddwch i'r tŷ 'ma.’ Os wes rhiwun heddichlon fan 'ny, bydd ich heddwch chi in gorwe arno fe; os na wes e, deith‑e nôl atoch chi. Arhoswch in i tŷ 'na, bitwch a hifwch beth man‑nhwy'n rhoi i chi, achos ma gweithwr in haeddu i bae. Peidwch newid o un tŷ i'r llall. Os ewch‑chi miwn i dre a ma'r bobol in falch ich gweld chi, bitwch beth sy'n câl i roi o'ch blân chi; gwellwch i rhei sy ddim in dda fan 'ny; a gwedwch wrthyn nhwy, 'Ma Teyrnas Duw wedi dod in agos atoch chi.’ Os ewch‑chi miwn i dre a seno'r dinion fan 'ny'n falch i weld chi, cerwch miwn i'r hewlydd a gweud, 'Fel protest in ich erbyn chi ŷ‑ni'n sichu bant dwst ich tre chi sy wedi stico in trade ni, ond silwch ar hyn, ma Teyrns Duw wedi dod in agos.’ Dw‑i'n gweud wrthoch chi ar i Dwarnod hwnnw bydd hi'n well ar Sodom na fydd i'r dre 'na.
“Druan â ti, Chorasin! Druan â ti, Bethsaida! Achos se'r gweithredoedd o nerth sy wedi câl u neud indoch chi wedi câl u neud in Tyrus a Sidon, bidde'r dinion fan 'ny wedi difaru o sebl, a bidden‑nhwy ishte fan 'ny in i lludw in gwishgo sachlien. Ond bydd hi'n well ar Tyrus a Sidon in i farn na fydd‑i arnoch chi. A ti, Capernaum, a gei‑di di godi lan i'r nefodd? Cei‑di di dinnu lawr i Hades. Ma unrhiw un sy'n grondo arnoch chi, in ddisgiblon i, in grondo arna i, a ma unrhiw un sy'n ich gwrthod chi, in in wrthod; a ma urnhiw un sy'n in wrtho i in gwrthod ir un nâth in hala i.”
Dâth i saith-deg-dou nôl in llawen, a gweud, “Arglwidd, ma hyd‑'nôd i cithreilied in grondo arnon ni in di enw di.” Gweodd‑e wrthyn nhwy, “Watshes i fel we Satan in cwmpo fel bwrw gole o'r nefodd. Dw‑i wedi rhoi comands ichi i ddamshel ar nadrodd a sgorpions, a ar nerth i gelyn i gyd, a fydd‑e ddim in neud dim dolur ichi o gwbwl. Ond wedyn weth peidwch bod in llawen achos bo'r isbrydiion in grondo arnoch chi; biddwch in llawen achos bo'ch enwe chi wedi câl u reito lawr in i nefodd.”
A per‑'ny llawnodd ir Isbryd Glân Iesu gida llawenydd a gwedodd‑e, “Dw‑i'n rhoi jolch i ti, Dad, Arglwidd nefodd a deiar, achos bo ti wedi cwato'r pethe 'ma wrth i doeth a'r diallus, a'u dangos nhwy i blant. Ie wir, Dad, dw‑i'n rhoi jolch iti achos bo ti'n câl pleser in hyn. Ma'r Tad wedi rhoi popeth i fi ofalu amanyn nhwy; sneb in gwbod pwy yw'r Crwt ond i Tad, a pwy yw'r Tad ond i Crwt a'r rhei ma'r Crwt in dewish i ddangos e iddyn nhwy.’
Troiodd‑e at i disgiblion a gweud wrthyn nhwy fel na alle neb arall gliwed, “Ma'r lliged sy wedi gweld beth ŷch‑chi'n gweld in hapus. Dw‑i'n gweud wrthoch chi, we lot o broffwydi a brenhinodd ishe gweld beth ŷch‑chi'n gweld, a nethon‑nhwy ddim, a cliwed beth ŷch‑chi'n cliwed, a nethon‑nhwy ddim.”
Safodd rhiwun we'n disgu'r Gifreth ar i drâd a'i desto fe. Gwedodd‑e, “Mishtir, beth wdw‑i i neud i gâl byw am byth?” Gwedo Iesu wrtho fe, “Beth sy 'di câl i reito in i Gifreth? Beth ŷch‑chi'n darllen fan 'ny?” Atebodd‑e, “Rhaid iti garu ir Arglwidd di Dduw 'da di galon i gyd, 'da di ened i gyd, 'da di nerth i gyd, a 'da di feddwl i gyd, a di gimidog fel ti di unan.” Gwedodd‑e wrtho fe, “Wit‑ti wedi ateb in gowir; os nei‑di hyn biddi‑di'n byw.”
Ond we'r dyn ishe cyfiawnhau i unan a gwedodd‑e wrth Iesu, “Pwy yw in gimidog i?” Wrth ateb i dyn gwedo Iesu, “We dyn in mynd lawr o Jerwsalem i Jericho a cwmpodd‑e in dwylo lladron, stripon‑nhwy e a'i fwrw fe, a mynd bant â'i adel e in hanner marw. Fel digwyddodd‑i dâth ffeirad heibo'r for 'ny, a pan welodd‑e'r dyn âth e heibo iddo ar ochor arall ir hewl. In gowir 'run peth dâth Lefiad i'r un man, a pan welodd‑e'r dyn âth e heibo iddo ar ochor ar ir hewl. Ond fel wedd‑e'n trafeilu dâth Samariad at i dyn, a phan welodd‑e fe teimoldd‑e drenu mowr. Âth‑e ato a rhoi bandejys am i glwyfe, a hallwish oel a gwin arnyn nhwy; nâth‑e i roi e ar i greadur i unan, mynd ag e i dafarn a edrych ar i ôl e. Tranoth cwmrodd ei ddou cant o bunne a'u rhoi nhwy i ddyn i tafarn; a gweu‑'tho, 'Gofala amdano fe, a os nei‑di hala mwy o arian, 'na‑i di dalu di pan ddewa‑i ffor 'yn ar ffor 'nôl.’ Nawr 'te, pwy o'r tri we'n gimidog i'r dyn a gwmpodd i ddwylo lladron?” Gwedodd‑e, “Ir un nâth ddangos cimwynas wrtho fe.” Gwedo Iesu wrtho, “Cer di a neud run peth ag e.”
Pan wen‑nhwy in trafeilu dâth‑e i bentre, a rhoiodd menyw o'r enw Martha groeso iddo ddod miwn i'w tŷ hi. We whâr 'da‑i o'r enw Mair, a ishteddodd‑i wrth drâd ir Arglwidd in grondod ar beth wedd‑e'n weud. Ond we Martha in fishi in neud i gwaith i gyd we 'da‑i neud. Dâth‑i a gweud, “Arglwidd, senot‑ti'n becso bod in whâr i wedi gadel i gwaith i gyd i fi neud ar in ben in unan? Gwe‑'th‑i helpu.” Atebo'r Arglwidd, “Martha, Martha, wit‑ti'n poeni a becso am shwt gwmint o bethe. Dim ond un peth sy moyn. Ma Mair wedi dewish gwd part, a neith neb fynd ag e wrthi.”