Eithr nid felly y mae yn eich plith chwi; eithr pwy bynag a ewyllysio fod yn fawr yn eich plith chwi, a fydd yn weinidog i chwi; a phwy bynag a ewyllysio fod yn flaenaf, efe a fydd yn was i chwi. Megys na ddaeth Mab y Dyn i'w wasanaethu, ond i wasanaethu ac i roddi ei einioes yn bridwerth dros lawer.