Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a waeddodd â llef uchel, Lazarus, tyred allan. A'r hwn oedd farw a ddaeth allan, wedi ei rwymo draed a dwylaw mewn bedd‐rwymau; a'i wyneb oedd wedi ei rwymo â napcyn. Dywed yr Iesu wrthynt, Gollyngwch ef yn rhydd, a gadêwch iddo fyned.