Ac wedi eu rhybuddio hwy gan Dduw trwy freuddwyd, na ddychwelent at Herod, hwy a aethant drachefn iw gwlad ar hŷd ffordd arall.
Ac wedi iddynt ymado, wele Angel yr Arglwydd a ymddangosodd i Ioseph trwy eu hun, gan ddywedyd, cyfot, a chymmer y bachgen a’i fam, a ffo i’r Aipht, a bydd yno hyd oni ddywedwyf i ti, canys ceisio a wna Herod y bachgen, iw ddifetha.