A’r Iesu a attebodd, ac a ddywedodd wrthynt, ewch, a mynegwch i Ioan y pethau a glywsoch ac a welsoch.
Y mae’r deillion yn gweled eil-waith, a’r cloffion yn rhodio: a’r cleiffon gwahanol wedi eu glanhau, a’r byddariaid yn clywed: y mae y meirw yn cyfodi, a’r tlodion yn cael pregethu yr Efengyl iddynt.